Ystadegau, Dogfennu
Gwasanaethau rhoi'r gorau ysmygu y GIG: Gorffennaf i Fedi 2025
Data ar ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2025.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 84 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Medi 2025
- Cafodd 3,869 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 1.48% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 907 (23.44%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill 2025 i fis Medi 2025)
- Cafodd 7,988 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 3.05% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 1,868 (23.39%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Manylion cyswllt
Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
