Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2018.

Prif bwyntiau

Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2018

  • Cafodd 3,391 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 0.70% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 1,438 (42.41%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill 2018 i fis Rhagfyr 2018)

  • Cafodd 10,876 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Gwnaeth 2.24% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 4,768 (43.84%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.