Ystadegau, Dogfennu
Gwasanaethau rhoi'r gorau ysmygu y GIG: Ionawr i Fawrth 2025
Data ar ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025.
Ar y dudalen hon
Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026
- Cafodd 4,047 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 1.5% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 932 (23.0%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026)
- Cafodd 15,471 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 5.9% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 3,606 (23.3%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Manylion cyswllt
Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
