Bydd Cymru yn croesawu gweinidogion cyllid o bob cwr o'r DU i Gaerdydd heddiw pan fydd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid yn dadlau dros gytundeb cyllido gan San Steffan sy'n adlewyrchu'r hyn sydd wir ei angen ar bobl yng Nghymru.
Mae'r cyfarfod, a elwir yn Bwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, yn dwyn ynghyd weinidogion cyllid o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon i drafod materion ariannol ac economaidd sy'n wynebu pob cwr o'r DU.
Cynhelir cyfarfod un-i-un rhwng y Gweinidog Cyllid a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys hefyd. Bydd hwn yn gyfle i drafod materion sy'n benodol i Gymru.
Bydd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid yn amlinellu sawl blaenoriaeth i Gymru o ran diwygio cyllidol, gan gynnwys:
- Adolygiad ffurfiol o Fframwaith Cyllidol Cymru 2016 – y cytundeb sy'n nodi trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru gan gynnwys ei phwerau treth a'i hoffer rheoli cyllidol fel benthyca – er mwyn sicrhau bod trefniadau cyllido Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol.
- Pwerau benthyca cryfach, a mwy o hyblygrwydd dros gronfeydd wrth gefn, fel y gall Cymru gynllunio a buddsoddi ar gyfer yr hirdymor.
- Gwelliannau a diwygiadau i fformiwla Barnett - y system ddegawdau oed a ddefnyddir i bennu faint o arian y mae Cymru'n ei gael gan Lywodraeth y DU.
- Cyflawni'r ymrwymiad o £14bn gan Lywodraeth y DU ar gyfer buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru, er mwyn mynd i'r afael â blynyddoedd o dangyllido o gymharu â rhannau eraill o'r DU.
- Camau gweithredu pellach ledled y DU ar gostau byw, er mwyn cefnogi aelwydydd ledled Cymru.
- Mwy o wariant cyfalaf i Gymru yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU, er mwyn ysgogi twf economaidd a buddsoddi yn ein seilwaith, gan gynnwys ysbytai a thai fforddiadwy.
- Arian i fynd i’r afael ag etifeddiaeth ein hanes diwydiannol, gan gynnwys adfer tomennu glo a glanhau tir sydd wedi’i lygru.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:
"Rwy'n falch o allu cwrdd â fy nghydweithwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Fe fydd yn gyfle pwysig i weithio'n adeiladol gyda'n gilydd ar yr heriau sy'n wynebu ein cenhedloedd ni i gyd.
"Fe fydda i hefyd yn nodi'n glir beth sydd ei angen ar Gymru. Dyw'r ffordd mae ein cyllid yn cael ei gyfrifo ddim wedi cadw i fyny â gwir anghenion pobl yma. Mae'r system yn hen ffasiwn a dyw e ddim yn ddigon tryloyw. Rhaid i hynny newid.
"Rydyn ni'n wynebu sefyllfa ariannol wirioneddol heriol – felly nid triniaeth arbennig i Gymru rydyn ni'n gofyn amdani. Rydyn ni'n gofyn am system deg a chlir sy'n adlewyrchu anghenion ein cymunedau.
"Dyna pam rwy'n gallu cadarnhau heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig adolygiad ar y cyd o Fframwaith Cyllidol Cymru yn ffurfiol. Fe fydda i'n trafod hyn mewn cyfarfod un-i-un gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.
"Mae'r Llywodraeth hon wedi egluro ein disgwyliadau ar y diwrnod cyntaf un, sef bod angen setliad tecach ar Gymru o ran cyllid a phwerau, a'i bod yn haeddu hynny.
"Drwy gydol y dydd, fe fydda i'n dadlau dros ragor o fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru, ac yn galw am flaenoriaethu gwariant cyfalaf a chymorth gyda chostau byw yng Nghyllideb yr Hydref.
"Mae Cymru a'i chymunedau i gyd yn haeddu tegwch a chydraddoldeb."
