Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar unwaith i leihau cost cynyddol ynni a thanwydd ar fusnesau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw'r alwad cyn i nifer o filiau ynni masnachol godi mwy na phedair gwaith yr hydref hwn.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i weithredu drwy gyflwyno mesurau a fydd yn helpu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng hwn.

Ers mis Tachwedd 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r holl ysgogiadau ariannol sydd ar gael i ddarparu pecyn o fesurau i gefnogi aelwydydd ledled Cymru i ddelio â'r argyfwng.

Bydd y Gweinidog yn cynnull cyfarfod brys gyda chynrychiolwyr busnes Cymru yn hwyrach heddiw, i glywed yn uniongyrchol am y pwysau y mae nhw'n ei wynebu.

Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r dulliau sy’n angenrheidiol i ddarparu'r amddiffyniad i fusnesau ar unwaith.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

"Mae'r argyfwng costau byw sy'n digwydd yn y DU yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd ledled y wlad. Rydym hefyd yn wynebu argyfwng costau busnes, gyda busnesau ledled Cymru'n wynebu pwysau cynyddol annioddefol oherwydd biliau ynni a thanwydd yn codi'n aruthrol.

"Ein busnesau yw anadl einioes ein cymunedau. Maen nhw'n darparu'r swyddi y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw am eu bywoliaeth. Fel Gweinidog Economi Cymru, fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd yw gwneud yr hyn a allaf i ddiogelu ein heconomi a'r bobl sy'n gweithio oddi mewn iddo.

"Dyna pam rwy'n mynnu bod Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy ac yn gweithredu ar unwaith nawr, trwy ddefnyddio'r pwerau sydd ganddyn nhw yn unig i ymyrryd yn yr argyfwng hwn. Rhaid iddyn nhw gyflwyno mesurau i leihau chwyddiant a darparu'r cymorth ychwanegol sylweddol sydd ei angen ar bobl a busnesau.

"Oni bai eu bod yn gweithredu nawr, maen nhw mewn perygl o achosi niwed sylweddol i economi Cymru. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd.

Yn 2022-23, mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi busnesau bach a chanolig drwy ddarparu £116 miliwn o gymorth trethi annomestig wedi'i dargedu i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru'n cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth fydd yn helpu busnesau sy’n dioddef pwysau ariannol dros y misoedd nesaf.  Mae'r Gwasanaeth yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr ar-lein a thrwy weithdai a chyngor personol ar bynciau gan gynnwys cyflogaeth a chyllid.