Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth wedi llongyfarch graddedigion BAMC eleni am lwyddo i gwblhau eu prentisiaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan BAMC enw da ers amser yn hyfforddi eu prentisiaid eu hunain i weithio yn eu canolfan ym maes awyr Caerdydd. Maent yn derbyn dros 350 o geisiadau, gan dderbyn 15 myfyriwr bob yn ail blwyddyn.  

Gan gydweithio gyda’r ddau brif ddarparwr addysg bellach yn Ne-ddwyrain Cymru, Coleg y Cymoedd a Choleg Caerdydd a’r Fro, mae ganddynt Ddosbarth BAMC.  Maent yn anelu at ddod o hyd i waith i bob prentis sy’n cwblhau rhaglen dair mlynedd.  

Mae’r rhaglen brentisiaeth a arweiniodd at y seremoni raddio yn cael ei chynnal ar y cyd â Choleg Y Cymoedd. Mae eu Rhaglen Prentisiaethau Uwch yn cael ei rhedeg ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro.  

Mae’r brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Awyrofod).  Ym mlwyddyn un maent yn dilyn rhaglen sylfaen sy’n cael ei dysgu yn gyfan-gwbl yn y dosbarth.  Ym mlwyddyn 2 maent yn astudio ar gyfer NVQ Lefel 2 a hefyd yn astudio ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig, ac ym mlwyddyn 3 maent yn astudio tuag at NVQ Lefel3.   

Meddai Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth: 

“Mae dull gynhwysfawr BAMC o hyfforddi yn creu gweithwyr o safon uchel sydd â’r sgiliau i ymateb i heriau eu swyddi yn y dyfodol.  

“Rwy’n llongyfarch graddedigion eleni ac yn dymuno’r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.  

“Rwyf hefyd yn falch o nodi bod dwy o raddedigion eleni yn fenywod.  Hoffwn weld mwy o fenywod ifanc yn ymddiddori – ac yn cael eu hannog i ddilyn gyrfa lwyddiannus ym myd peirianneg.  

“Mae Porth Sgiliau Cymru yn nodi bod 80% o weithwyr yn cytuno bod prentisiaethau yn sicrhau bod eu gweithlu yn fwy cynhyrchiol a bod 83% ohonynt yn dibynnu ar brentisiaethau i ddarparu gweithwyr medrus ar gyfer y dyfodol.  

“Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i isafswm o 100,000 o brentisiaid o bob oed dros y bum mlynedd nesaf, gan ddarparu gweithlu amrywiol, galluog sy’n barod ar gyfer y dyfodol.”  

Meddai Matthew Hancox, Pennaeth Unedau Busnes Peirianyddol a Chynnal a Chadw Trwm British Airways:   

“Rydym yn falch o’n prentisiaethau ac am ddathlu eu llwyddiant.  

“Rydym yn ymdrechu i gynnig i bawb, gan gynnwys ein prentisiaid, y cyfleoedd gorau un i hyfforddi a’r cyrsiau gorau, a rydym yn credu bod ein cynllun prentisiaid cystal ag unrhyw un yng Nghymru.  

“Mae gennym dîm gwych yn BAMC, gyda ffordd wych o ddatblygu ein cenhedlaeth nesaf o ddoniau.”