Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd Ken Skates wedi ysgrifennu at Grant Shapps AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, i fynegi’i bryderon dwys am ei gyhoeddiad yn ddiweddar o £343m o arian “ychwanegol” ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ei lythyr, mae Ken Skates yn edrych ar wahanol elfennau’r cyllid yn y pecyn. Mae’n esbonio, er gwaetha’r siarad am ‘lefelu am i fyny’, bod pecyn Llywodraeth y DU yn bell o fod yn ariannu teg ac eglura hefyd fod y tanfuddsoddi yn y rheilffyrdd yng Nghymru a’r ffordd ddarniog y mae’r seilwaith yn cael ei gynllunio, yn golygu y bydd Llywodraeth y DU yn methu ei hamcanion ei hun.

Dywed yn ei lythyr:

“I bob golwg, ychydig iawn o’r pecyn sy’n arian ‘newydd’. Mae llawer o’r prosiectau yn y cyhoeddiad wedi’u cyhoeddi eisoes. Er enghraifft, y £58m ar gyfer gorsaf ganolog Caerdydd.  Yn wir, cafodd rhannau o’r pecyn, fel yr arian ar gyfer trydaneiddio’r cymoedd, eu cyhoeddi nôl yn 2014.

“Nid yw casgliad digyswllt o brosiectau ad hoc ar draws Cymru’n ‘rhaglen uchelgeisiol’. Mae ein cynllun ar gyfer systemau Metro ledled Cymru’n anelu at greu systemau trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig, ond er mawr ofid imi, nid yw’r cyhoeddiadau yn y pecyn hwn yn cyfeirio at ein gweledigaeth gyffredinol, heb sôn am geisio bod yn rhan ohoni.

“Nid yw ambell beth yn y cyhoeddiad yn fuddsoddiad o gwbl. Mae £76m o’r pecyn yn deillio o’r gorwariant ar raglen drydaneiddio prif lein y De. Ni ddaw’r arian hwn ag unrhyw beth ychwanegol i Gymru, dim ond amlygu’r camreoli a fu ar y prosiect arbennig hwnnw.

“Yn olaf, ac yn bwysicaf, yng nghyd-destun y biliynau o bunnau sy’n cael ei fuddsoddi yn ngweddill rhwydwaith y Deyrnas Unedig, nid yw’r pecyn yn gwneud unrhyw beth i geisio unioni’r tanfuddsoddi parhaus a sylweddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru.

“Mae ein hymchwil yn dangos yn glir, o ystyried y £50bn a mwy sydd wedi’i glustnodi ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr dros y degawd nesaf fel llinyn mesur, y bydd tanwariant o £2.4bn ar reilffyrdd Cymru rhwng 2001 a 2029, ac amcangyfrif ceidwadol yw hwnnw.  Bydd yr amcangyfrif hyd yn oed yn uwch o’i seilio ar faint rhwydwaith Cymru a’i gymharu â gweddill y DU.

“Mae maint y tanfuddsoddi hwn i’w weld yn amlwg yn y wasgfa ar y seilwaith yn llawer rhan o Gymru ac mae’n ffactor sydd wedi effeithio heb os ar ein cynhyrchiant a’n perfformiad economaidd - yn ogystal â chyfrannu at broblemau trafnidiaeth eraill, fel y mae adroddiad interim Comisiwn Burns ar y tagfeydd o gwmpas Twnelau Brynglas yn ei ddangos mor glir.

“Nid yw Cymru wedi cael profi’r lefel o fuddsoddi i wella seilwaith sydd wedi’i weld yn rhannau eraill y DU. Yn fy marn i, dim ond trwy ddatganoli’r pwerau dros seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru ynghyd â setliad cyllido llawn a theg, y mae gobaith unioni’r sefyllfa.