Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi dau benodiad i Gyngor y Gweithlu Addysg heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad dau aelod newydd i Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae hyn yn dilyn proses benodi ddiweddar.

Yr aelodau newydd yw Nicola Stubbins a Susan Walker.

Bydd y ddwy yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'w rolau fel aelodau'r Cyngor.

Prif nodau’r Cyngor yw:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy'n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru
  • cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, a diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am:

  • sefydlu a chynnal Cofrestr o ymarferwyr addysg yng Nghymru
  • cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg cofrestredig yng Nghymru
  • ymchwilio a gwrando ar achosion sy'n ymwneud ag addasrwydd i ymarfer ymarferwyr addysg cofrestredig yng Nghymru
  • cynghori Gweinidogion Cymru ac eraill ar amrywiaeth o faterion proffesiynol gan gynnwys safonau ymddygiad ac ymarfer; rolau a statws proffesiynol; hyfforddiant, datblygu gyrfa a rheoli perfformiad, recriwtio, cadw a chyflenwi ymarferwyr addysg cofrestredig
  • achredu a monitro rhaglenni addysg gychwynnol athrawon ysgol (AGA) yng Nghymru
  • hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg cofrestredig yng Nghymru, ar ran Llywodraeth Cymru
  • arwain amrywiaeth o fentrau a phrosiectau cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru

Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 yn darparu bod rhaid i’r Cyngor gynnwys i leiaf 14 aelod. Penodir 7 aelod yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru a phenodir 7 aelod gan Weinidogion Cymru ar ôl cael eu henwebu gan sefydliadau a restrir yn Atodlen Rheoliadau 2014, fel y'u diwygiwyd.

Nid yw'r swyddi hyn yn rai cyflogedig ac ni thelir aelodau’r Cyngor. Fodd bynnag, gallant hawlio ad-daliad am gostau teithio a chynhaliaeth rhesymol. Mae gofyn am ymrwymiad amser o tua 10 i 12 diwrnod y flwyddyn.

Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Aelodau enwebedig newydd

Nicola Stubbins

Mae Nicola Stubbins wedi gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus ers 1995. Mae gan Nicola Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol ac mae ganddi Radd Meistr mewn Gofal Cymdeithasol. Dechreuodd Nicola ar ei gyrfa mewn gofal cymdeithasol fel Gweithiwr Cymorth Iechyd Meddwl, ac mae ganddi ystod eang o brofiad ar draws Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn ogystal ag Addysg a Thai.

Mae Nicola wedi dal swyddi arwain uwch mewn llywodraeth leol am 14 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych, lle mae Nicola wedi byw a gweithio ers dros 7 mlynedd. Fel Cyfarwyddwr Corfforaethol, mae Nicola yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chymunedol, Cyflogaeth Strategol, y Gymraeg a Diogelu Corfforaethol. Nicola hefyd yw Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.

Yn ystod 2020 i 2021, Nicola oedd Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar ôl bod yn Is-lywydd am y ddwy flynedd flaenorol, gan ddarparu arweiniad strategol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a dylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisïau ac arferion. Fel Llywydd, rhoddodd Nicola dystiolaeth arbenigol i Ymchwiliad y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol i oblygiadau hawliau dynol ymateb Covid-19 Llywodraeth y DU; a dwywaith i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Nicola hefyd yn Aelod o Fwrdd RYA Cymru Wales.

Susan Walker

Ar ôl cael gradd gychwynnol yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg, dechreuodd Susan ar yrfa addysgu yn Llundain yn gweithio i'r ILEA. Ar ôl symud yn ôl i Gymru, bu Susan yn gweithio mewn ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn cael prifathrawiaeth yn Abertawe, gan gwblhau ei MA (Ed) hefyd.

Roedd Susan yn rhan o un o'r carfanau cyntaf i fynd am gymhwyster CPCP. Wrth symud i'r gwasanaeth cynghori, aeth Susan yn ôl i hen ardal Morgannwg Ganol ac yno mae Susan wedi aros ers 2007, gan symud i Rhondda Cynon Taf fel swyddog gwella ysgolion yn 2011 ac yn 2017 ymgymerodd â'i rôl bresennol fel Prif Swyddog Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.