Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans wedi addunedu i gefnogi'r frwydr yn erbyn ymwrthedd i gyffuriau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gweinidog wedi dod yn Warcheidwad Gwrthfiotigau - rhan o ymgyrch ledled y DU sy'n ceisio annog pawb, o'r cyhoedd i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd anifeiliaid a phobl, i wneud gwell defnydd o'r meddyginiaethau hanfodol hyn.

Drwy leihau'r defnydd diangen o wrthfiotigau, gallwn helpu i atal bacteria sy'n gallu gwrthsefyll cyffuriau rhag datblygu, a sicrhau bod gwrthfiotigau yn parhau i fod yn effeithiol i'w defnyddio gan genedlaethau'r dyfodol.

Bu'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans yn ymweld ag Ysbyty Prifysgol Llandochau er mwyn llofnodi'r adduned a chlywed am y gwaith da sy'n digwydd o fewn GIG Cymru i fynd i'r afael ag ymwrthedd i gyffuriau. Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog:

"Mae ymwrthedd i gyffuriau yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd ar draws y byd. Heb wrthfiotigau effeithiol, bydd nifer o driniaethau cyffredin yn dod yn fwy peryglus. Gosod esgyrn sydd wedi torri, llawdriniaethau sylfaenol, hyd yn oed cemotherapi - mae pob un yn dibynnu ar wrthfiotigau er mwyn ymladd unrhyw heintiau.

"Rydyn ni'n clywed yn aml beth allai ddigwydd pe bai'r meddyginiaethau hyn yn aneffeithiol, ond yn llai aml pa gamau y gall unigolion eu cymryd i helpu.  Dyna beth yw bwriad yr ymgyrch Gwarcheidwaid Gwrthfiotigau.  Gall pob un ohonom ni wneud un adduned, fel peidio disgwyl gwrthfiotig ar gyfer mân anhwylderau, manteisio ar y cynnig o frechiad ffliw rhad ac am ddim, neu ddefnyddio gwrthfiotigau mewn ffordd gyfrifol, er mwyn ymladd y broblem o ymwrthedd gyda'n gilydd.

"Oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn nawr, bydd yn gwaethygu.  Mae Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar Ymwrthedd i Gyffuriau yn nodi'n glir pa gamau mae Gwasanaeth Iechyd Cymru a'i bartneriaid yn eu cymryd i fynd i'r afael ag ymwrthedd i gyffuriau."

Dywedodd Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd Grŵp Gweithredu Cymru ar Ymwrthedd i Gyffuriau:

"Mae Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru'n fenter bwysig y mae holl sefydliadau Gwasanaeth Iechyd Cymru yn ei chefnogi.

"Datblygodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei gynllun gweithredu ei hun i ddatblygu hyn.  Mae'r canlyniadau eisoes i'w gweld, gan mai dyma'r bwrdd iechyd sydd â'r gyfradd isaf yng Nghymru o bresgripsiynau ar gyfer gwrthfiotigau mewn lleoliadau gofal sylfaenol.

"Mae'n galonogol gweld camau mor dda yn cael eu cymryd i sicrhau bod gwrthfiotigau yn cael eu diogelu i'w defnyddio nawr a gan genedlaethau'r dyfodol yn lleol ac ar draws Cymru."