Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn cefnogi talentau Cymru mewn sioe sgiliau genedlaethol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y sioe, y digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf ym Mhrydain, ei chynnal yn flynyddol yn yr NEC yn Birmingham. Caiff ei chynnal ar 16-18 Tachwedd eleni, ac mae’n cynnwys Rownd Derfynol Wordskills ar gyfer y Deyrnas Unedig. Eleni, Cymru sydd â’r nifer fwyaf o gystadleuwyr o bob rhan o Brydain.

Mae’r Rownd Derfynol hon yn gyfle i feincnodi rhagoriaeth ar draws ystod o feysydd galwedigaethol. Hefyd, mae’n rhan o’r broses ddethol ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol EuroSkills Budapest 2018 a WorldSkills Kazan 2019.

Mae tua 500 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn Rownd Derfynol Worldskills y Deyrnas Unedig eleni. Mae tua 60 o gystadlaethau cenedlaethol ac mae’r cystadleuwyr yn brwydro am fedalau aur, arian ac efydd. Mae 71 o gystadleuwyr o Gymru – sef tua 14% o’r cyfanswm, sy’n gyfran fwy nag unrhyw ran arall o Brydain.

Yn ogystal, mae 9 o fyfyrwyr talentog wedi cael eu gwahodd i gystadlu am le yng Ngharfan Prydain yng nghystadlaethau WorldSkills Budapest / Kazan. Mae chwech arall yn cymryd rhan yn y cystadlaethau ‘Sgiliau Cynhwysol’, sef cystadlaethau ar gyfer pobl ag anableddau. 

Hefyd yn y Sioe, bydd WorldSkills UK yn cyhoeddi enillydd gwobr Arwyr Lleol 2017. Cefnogwyr Worldskills UK yw’r Arwyr Lleol hyn – pobl sy’n gyfrifol am sicrhau bod eu sefydliadau’n cymryd rhan mewn cystadlaethau. Maent yn hyrwyddo WorldSkills a buddion y gystadleuaeth ymysg myfyrwyr, prentisiaethau a rheolwyr uwch. Yn ogystal, maent yn rhoi o’u hamser i gefnogi cystadleuwyr, gan gynnal hyfforddiant a chynnig cefnogaeth fugeiliol.

Mae chwech wedi cyrraedd rhestr fer WorldSkills UK ar gyfer gwobr Arwyr Lleol 2017 ac mae dau o’r rheiny o Gymru - Darren Collins o Airbus UK (Brychdyn) a Rona Griffiths o Goleg Cambria.

Gan siarad yn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:

“Mae’r ffaith fod gan Gymru bron i gant o bobl yn cymryd rhan yn y Sioe Sgiliau yn wych ac yn brawf o’r talent a’r sgiliau rhagorol sy’n bodoli yng Nghymru.

“Mae cefnogi pobl i ddatblygu eu talent a’u sgiliau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Drwy ein gwahanol raglenni cyflogaeth a sgiliau galwedigaethol – gan gynnwys ein Polisi Prentisiaethau newydd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar  sgiliau lefel uwch – rydym yn dangos ein bod wedi llwyr ymrwymo i helpu unigolion i wireddu eu huchelgeisiau a bod yn aelodau gwerthfawr o weithlu Cymru.

"Drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel hyn, rydym yn creu cenedl llawn sgiliau er mwyn hybu ein heconomi, diogelu ein diwydiannau a gwella rhagolygon Cymru.

"Pob lwc i bawb yn y cystadlaethau a diolch i’r bobl sy’n eu cefnogi am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”