Neidio i'r prif gynnwy

Mae busnes yn Rhuallt, Sir Ddinbych yn cael cryn lwyddiant wrth allforio. Mae'n allforio i dros 15 o wledydd, gan gynnwys yr Almaen, Ffrainc a Seland Newydd, ac mae bellach yn troi ei olygon at ragor o dwf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Fifth Wheel yn dylunio ac yn adeiladu carafannau teithiol moethus pum olwyn, ac ef yw'r unig gwmni yn Ewrop sy'n gwneud carafannau pum olwyn sy'n cydymffurfio â gofynion yr UE.

Ar hyn o bryd, mae allforion yn cyfrif am 50 y cant o'i fasnach ac mae'r cwmni'n bwriadu cynyddu'r ffigur hwnnw.           

Mae cefnogaeth a gafodd y cwmni oddi wrth arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru wedi bod o gymorth iddo lwyddo. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda cholegau lleol i gynnig profiad i fyfyrwyr.

Galwodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, heibio i safle'r cwmni yn Rhuallt i glywed am eu llwyddiant ac am y cynlluniau sydd ganddynt ar gyfer y dyfodol. 

Dywedodd: 

Mae wedi bod yn anhygoel clywed am lwyddiant Fifth Wheel wrth allforio.  Roedd hefyd yn dda clywed am y gwaith maen nhw'n ei wneud gyda myfyrwyr lleol, i roi profiad gwaith gwerthfawr iddyn nhw.

Maen nhw'n enghraifft wych o'r busnesau arloesol a medrus sydd gennym yma yn y Gogledd, a dw i'n falch eu bod hefyd wedi gallu manteisio ar raglenni masnach Llywodraeth Cymru i'w helpu i lwyddo wrth allforio.

Mae Fifth Wheel hefyd yn rhedeg y Tŷ Gwyn, sy'n cynnig llety, bwyty, cyfleusterau sba a champfa ar y safle. Yn ogystal, mae ganddynt Glwb Gwledig Rhuallt, ger y Tŷ Gwyn, sy'n gallu darparu dros o 50 o leiniau ar gyfer carafannau sefydlog a theithiol.

Ychwanegodd y Gweinidog: 

Mae cael gweld yr hyn mae Fifth Wheel wedi'i gyflawni wedi bod yn ysbrydoliaeth a dw i'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.

Dywedodd Gethin Whiteley, Cyfarwyddwr Technegol Fifth Wheel: 

Mae'r cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi'n helpu i allforio'n cynhyrchion ledled y byd. Mae allforio wedi cryfhau'n busnes ac wedi caniatáu inni fuddsoddi yn nyfodol The Fifth Wheel Company.

Yn ystod y dydd, bu'r Gweinidog yn ymweld hefyd â busnesau bwyd Grazed Bakery yn Rhiwabon, Goch and Co yn Wrecsam a Siop Fferm Ystad Penarlâg.