Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi croesawu’r cadarnhad y bydd y Gronfa Ardoll Cig Coch ar gyfer Prydain gyfan yn cynyddu o £2 filiwn o £3.5 miliwn y flwyddyn nesaf, ar ôl i fyrddau’r Ardoll Cig Coch yng Nghymru, yr Alban a Lloegr ddod i gytundeb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers dwy flynedd bellach mae Hybu Cig Cymru, ynghyd â Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS), wedi penderfynu ar y cyd ar raglen gydweithredol o weithgareddau ar gyfer hyrwyddo diwydiant cig Prydain. Mae hyn yn cynnwys mynd ati ar y cyd i hyrwyddo cig Prydain dramor a phwysleisio manteision cig coch o ran maeth.

Cafwyd cadarnhad heddiw y bydd maint y gronfa gyffredinol yn cynyddu o £2 filiwn o £3.5 miliwn o 1 Ebrill 2020. Caiff y buddsoddiad ychwanegol yma ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer gwella enw da cig ymysg defnyddwyr , gan fynd i’r afael â chamdybiaethau a hyrwyddo manteision bwyta cig o ffynonellau cynaliadwy.

Dywedodd Lesley Griffiths:

Mae’r ffaith y bydd mwy o gyllid ar gael o fewn y Gronfa Ardoll Cig Coch yn newyddion gwych i ddiwydiant cig coch Cymru. Trwy gynyddu’r gronfa o £2 filiwn o £3.5 miliwn bydd rhagor o gyfleoedd i hyrwyddo cig oen a chig eidion heb ei ail, gartref a thramor. Dyma enghraifft wych o gydweithio a fydd yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer diwydiant cig coch Cymru. Hoffwn ddiolch i Hybu Cig Cymru am eu cyfraniad o ran sicrhau’r cytundeb hwn â byrddau eraill y DU sydd ynghlwm wrth yr Ardoll Cig Coch.

Dywedodd Hybu Cig Cymru, AHDB a QMS mewn datganiad ar y cyd:

Mae’r gronfa bresennol sydd wedi’i chlustnodi wedi creu cyfleoedd gwych i ni gydweithio’n agosach er mwyn sicrhau bod sector cig Prydain yn mynd o nerth i nerth. Er mai cam dros dro yw hwn o hyd cyn i’r ardollau gael eu hailddosbarthu credwn ei bod yn syniad da i atgyfnerthu’r cydweithio hwn a chynyddu’r buddsoddiad cyffredinol yn y gronfa ar y cyd ar gyfer y 12 mis nesaf.

Mae’r diwydiant o dan bwysau difrifol a theimlwn y gallwn gyflawni llawer o ran datblygu marchnadoedd a gwaith allforio, gan ddod o hyd i farchnadoedd newydd ar gyfer ein cynhyrchion tramor. Heb unrhyw amheuaeth bydd hyrwyddo manteision cig coch yn llesol iawn i’r diwydiant ac yn ei amddiffyn rhag camdybiaethau a diffyg dealltwriaeth.