Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (14 Mai) mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyhoeddi ei ail Gynllun Corfforaethol, wedi’i gymeradwyo gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Cynllun Corfforaethol (2019-22) yn rhoi amlinelliad o ddatganiad o pwrpas, amcanion strategol a mesurau perfformiad newydd ar gyfer yr awdurdod trethi. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn helpu’r sefydliad i barhau â'i waith o godi refeniw er mwyn cefnogi gwasanaethau ledled Cymru.  

Dechreuodd y sefydliad gasglu a rheoli dwy dreth ddatganoledig Cymru ar 1 Ebrill 2018. O ganlyniad i gyflwyno'r trethi, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, cafodd Cymru’r trethi cyntaf yn benodol i Gymru ers bron i 800 mlynedd. 

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn mynd ati i'n helpu yn ein huchelgais o greu system drethu decach sy'n cwrdd ag anghenion unigryw Cymru.

Dywedodd Kathryn Bishop, Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru:

Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb sefydliadol dros godi refeniw ar ran Llywodraeth Cymru, i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau mewn cymunedau ledled Cymru.

Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n pobl, rydym wedi cyd-greu ein Cynllun Corfforaethol sy'n nodi sut y byddwn yn cefnogi cyflwyno system drethu deg yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru:

Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydym wedi cyflwyno dull dwyffordd o weinyddu treth er mwyn helpu pobl i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn. Mae'r gwaith pwysig hwn yn parhau'n flaenoriaeth i ni wrth symud ymlaen.

Wrth i ni edrych ymlaen, hoffwn gydnabod maint y gefnogaeth a'r arbenigedd a gawsom gan eraill hyd yma. Mae gweithio gyda'n gilydd wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud, ac rydym yn croesawu'r cymorth parhaus hwn wrth i ni fynd ymlaen â'n gwaith o wasanaethu Cymru.

Mae Cynllun Corfforaethol Awdurdod Cyllid Cymru (2019-22) ar gael yma.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.