Neidio i'r prif gynnwy

Mae gardd synhwyraidd, pedair ystafell wely newydd ac ardal les newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghartref Gofal Hafan Deg yn Llanbedr Pont Steffan i wella gofal i breswylwyr â dementia, diolch i fuddsoddiad o £460,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod ei hymweliad â’r cartref gofal ddydd Iau (10 Tachwedd) bu’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, hefyd yn cyfarfod â rhai o’r aelodau newydd o staff ac amlinellodd ymdrechion Llywodraeth Cymru i recriwtio mwy o weithwyr gofal cymdeithasol.

Dywedodd:

Rwy’n falch o weld gwaith yn dechrau ar y prosiect pwysig hwn a fydd yn gwella profiad preswylwyr a’u teuluoedd yn fawr. Yn unol â’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yng Nghymru, mae hwn yn fuddsoddiad mewn dulliau newydd o ddarparu gofal a chymorth i bobl â dementia.

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft dda o gydweithio rhwng y bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol i wella gwasanaethau.

Bu’r Dirprwy Weinidog hefyd yn cyfarfod ag aelodau newydd o staff yn Hafan Deg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £43 miliwn i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael isafswm cyflog o £9.90.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar ymgyrch recriwtio helaeth, ‘Gofalwn.Cymru’, i hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’r wefan, Gofalwn.Cymru, wedi’i sefydlu i alluogi cyflogwyr gofal cymdeithasol i hysbysebu swyddi yn y sector am ddim, gan ei gwneud yn haws recriwtio ac i staff newydd ddod o hyd i swydd.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu cwrs Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol sy’n para tridiau ac sydd ar gael am ddim, gan ganolbwyntio ar bynciau fel cyfathrebu, diogelu ac arferion gweithio.

Mae prentisiaethau hefyd ar gael yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnig modd o gael hyfforddiant a datblygu sgiliau a chymwysterau newydd tra’n gweithio a dysgu.

Dywedodd Ms Morgan:

Mae ein gweithwyr gofal yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl yng Nghymru, yn edrych ar ôl llawer ohonom a’n hanwyliaid, gan ddarparu gofal arbenigol i bobl o bob oed ag ystod eang o anghenion.

Rydym yn buddsoddi yn y sector gofal cymdeithasol i sicrhau tâl teg ac i wella arferion gweithio a chynnydd gyrfaoedd i wneud y proffesiwn yn lle gwell i weithio.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros y Strategaeth Gydol Oed a Llesiant,

Mae’n wych gweld y cyfle cyffrous hwn yn cael ei ddatblygu yng Ngheredigion, gan ddatblygu gwasanaethau a fydd yn addas i’r dyfodol drwy gefnogi pobl â dementia yn eu cymuned leol.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i barhau i recriwtio staff gofal cymdeithasol o safon ac i greu cyfleoedd drwy brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi, ac wrth wneud hynny creu gweithlu ar gyfer y dyfodol.