Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn cyflwyno blaenoriaethau tasglu’r Cymoedd

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan siarad flwyddyn ar ôl lansio’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, dywedodd y Gweinidog y bydd cynllun y tasglu – Ein Cymoedd, Ein Dyfodol – yn cael ei gyhoeddi ar 20 Gorffennaf.

Sefydlwyd y tasglu i weithio gyda chymunedau a busnesau lleol ledled Cymoedd y De a’i nod yw sicrhau newid economaidd parhaol; creu swyddi o ansawdd da yn agosach at gartrefi pobl, gwella lefelau sgiliau a sicrhau ffyniant i bawb.

Mae’r tasglu wedi treulio’r flwyddyn yn cymryd tystiolaeth a gwrando ar bobl sy’n byw a gweithio yn y Cymoedd - mae’r sgyrsiau #TalkValleys hyn wedi helpu i lywio blaenoriaethau’r tasglu ar gyfer y dyfodol ac Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.

Mewn datganiad i'r Senedd heddiw [dydd Mawrth 11 Gorffennaf], cyflwynodd y Gweinidog rai o flaenoriaethau’r tasglu, cyn cyhoeddi’r cynllun yr wythnos nesaf;

  • Cau’r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru trwy gael 7,000 yn rhagor o bobl mewn gwaith erbyn 2021, a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy;
  • Creu hybiau strategol newydd mewn chwe ardal ledled y Cymoedd, gan gynnwys y parc busnes technoleg fodurol newydd yng Nglynebwy, a gyhoeddwyd gan Ken Skates fis diwethaf;
  • Pwyso a mesur y cysyniad o Barc Tirweddau’r Cymoedd, i helpu cymunedau lleol ddatblygu eu hasedau naturiol niferus, gan gynnwys y potensial ar gyfer twristiaeth a chynhyrchu ynni cymunedol.

Meddai Mr Davies:

“Rydym yn lansio Ein Cymoedd, Ein Dyfodol mewn cyfnod o fuddsoddi heb ei debyg mewn seilwaith yn y De - mae Metro De Cymru, y ddwy fargen ddinesig, ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy a ffordd liniaru’r M4 i gyd yn cynnig cyfleoedd i bobl sy’n byw yn y Cymoedd. Mae’r rhain yn gyfleoedd y mae’n rhaid i ni fanteisio arnyn nhw, ac rydym yn sicr o wneud hynny.

“Rwy’n benderfynol y bydd y tasglu’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau’r Cymoedd ac mae’n rhaid i ni gydweithio i wireddi’r weledigaeth hon. Dyma ddechrau taith tymor hirach, sy’n cael ei llywio gan bobl sy’n gweithio a byw yn y Cymoedd.

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r gwaith hwn yn y rhanbarth hwn, sy’n agos iawn at fy nghalon, lle cefais fy ngeni a’m magu. Gobeithio y gallwn sicrhau newid sy’n gweddnewid yr ardal yn barhaus drwy’r dull hwn.”