Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates wedi cyhoeddi heddiw hyd at £1 filiwn o gyllid ar gyfer pedwar prosiect peilot a fydd yn profi mathau blaengar o wasanaethau bws sy'n ymateb i'r galw ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd dau gynllun treialu yn cael eu cynnal yn y Gogledd a bydd dau arall yn y Gorllewin ac yn ardal Tasglu'r Cymoedd. Bydd y cynlluniau treialu hyn yn profi gwahanol fodelau o wasanaethau bws ymatebol a byddant, lle y bo'n briodol, yn adeiladu ar fodelau cyflenwi presennol.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynorthwyo â'r cynlluniau treialu.

Caiff canlyniadau'r cynlluniau treialu eu dadansoddi a byddant yn sail i'r gwaith o ddatblygu dulliau teithio sy'n ymateb i'r galw dros y blynyddoedd nesaf. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch sefydlu trefniant parhaol, gan ddibynnu ar lwyddiant y cynlluniau treialu.

Mae'r cyllid yn rhan o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol gwerth £24 miliwn a fydd yn cael ei chyhoeddi'n fuan.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:

"Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer trafnidiaeth dros y degawd nesaf a thu hwnt i hynny. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd sydd werth £5 biliwn, trawsnewid y rhwydwaith bysiau a buddsoddi'n sylweddol mewn Teithio Llesol.

"Agwedd bwysig ar ein cynllun yw annog blaengaredd o fewn ein rhwydwaith trafnidiaeth a sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion y teithwyr a'r cymunedau sy'n ei ddefnyddio.

"Bydd yr £1 miliwn yma'n ein galluogi i brofi pedwar gwahanol fodel o deithiau ymatebol ar y rhwydwaith bysiau. Y nod yn y pen draw yw datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig lle y mae gwir alw amdano - at ddibenion gwaith, hamdden neu er mwyn gallu cael mynediad at wasanaethau pwysig.

"Mae'n gwbl annerbyniol na all un o bob pum person mewn mannau fel Rhanbarth Mersi a'r Ddyfrdwy gael cyfweliadau ar gyfer swyddi oherwydd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ar gael. Nid oes modd i un o bob pum person geisio cael swydd oherwydd nad ydynt yn berchen ar gar.

"Trwy gynllunio a phrofi'r gwahanol fodelau gallwn brofi agweddau allweddol ar wasanaethau bws ymatebol, gan gynnwys integreiddio trafnidiaeth ar gyfer dysgwyr gyda thrafnidiaeth ar gyfer cleifion a hefyd ddefnyddio technoleg symudol newydd.

Golyga cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr yn cydweithio er mwyn dechrau cynllunio'r prosiectau peilot.

Bydd gwybodaeth bwysig yn deillio o'r cynlluniau a bydd yn ei gwneud hi'n haws i gyflwyno gwasanaethau ymatebol ac integredig ar draws gweddill Cymru. Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiectau peilot ar gael cyn gynted ag y caiff y trefniadau eu cadarnhau gyda'r awdurdodau lleol a'r gweithredwyr.

Dywedodd Gweinidog Tasglu'r Cymoedd, Lee Waters:

"Mae gwasanaethau bws yn gwbl allweddol ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel y Cymoedd, gan greu cysylltiadau rhwng cymunedau a sicrhau mynediad hanfodol at swyddi, addysg a gwasanaethau.

"Bydd helpu i brofi atebion newydd a blaengar er mwyn sicrhau bod gwasanaethau bws yn fwy hyblyg ac yn fwy ymatebol yn helpu pobl â'u bywydau dyddiol a bydd yn ei gwneud hi'n haws iddynt adael eu cerbydau gartref.

“Trwy ymwneud â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd rydym yn ymwybodol o’r ffaith mai trafnidiaeth, ac yn arbennig bysiau, yw’r prif fater y mae angen mynd i’r afael ag ef yn y Cymoedd. Fy nod yw cyhoeddi cynllun peilot arall yn yr ardal hon.

"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio ag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru er mwyn llywio'r cynllun peilot yn rhanbarth Tasglu'r Cymoedd.