Neidio i'r prif gynnwy

Ymunodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â dathliadau yn y Swistir i nodi 100 mlynedd ers geni'r seren Hollywood o Gymru, Richard Burton.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ganed Burton yng Nghastell-nedd Port Talbot ym 1925, a daeth yn eicon byd ffilm a theatr, gan ennill sawl enwebiad am Wobr yr Academi drwy gydol ei yrfa. Ymgartrefodd yn Céligny, y Swistir, o 1957 hyd at ei farwolaeth ym 1984.

Mynychodd y Gweinidog gyfres o deyrngedau i anrhydeddu gwaddol Burton, gan gynnwys dadorchuddio plac treftadaeth yn ei hen gartref.

Mewn teyrnged addas, ailenwyd sgwâr y pentref lleol yn ffurfiol i Place Richard Burton.

Daeth y coffáu i ben gyda thaith gerdded i fynwent Céligny lle claddwyd Burton gyda darlleniad o'i hoff gerdd a ysgrifennwyd gan ei gyd-Gymro a'i ffrind agos, Dylan Thomas.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

"Roedd yn anrhydedd ymuno â'r teyrngedau yn Céligny, wrth i ni nodi 100 mlynedd ers geni Richard Burton. Rydym yn dathlu nid yn unig ei fywyd, ond dylanwad parhaol ei waith, ei wreiddiau Cymreig, a'i gyrhaeddiad byd-eang.

"Ni anghofiodd Richard Burton erioed ei dreftadaeth Gymreig – roedd ei lais unigryw yn cario hanfod Cymru i'r dychymyg byd-eang. Mae ei daith o Gymru i enwogrwydd rhyngwladol yn dangos sut mae diwylliant a thalent Cymru yn parhau i atseinio ledled y byd."