Neidio i'r prif gynnwy

Bu'r Gweinidog mewn digwyddiad arbennig yn Ysbyty Aneurin Bevan, Glynebwy, gan gyfarfod a rhai o'r bobl a gafodd gymorth gan y rhaglen, a'u mentoriaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu'r Gweinidog mewn digwyddiad arbennig yn Ysbyty Aneurin Bevan, Glynebwy, gan gyfarfod a rhai o'r bobl a gafodd gymorth gan y rhaglen, a'u mentoriaid. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn rhan bwysig o’r prosiect yn ardaloedd Caerffili a Blaenau Gwent, gan ddarparu dros 100 o gyfleoedd i bobl mewn amryw leoliadau.

Roedd rhaglen Esgyn yn gweithredu mewn naw ardal yng Nghymru, gan gynnig cymorth un-i-un penodol i bobl o aelwydydd lle nad oedd unrhyw un wedi gweithio ers o leiaf chwe mis; pobl sy’n wynebu rhwystrau wrth geisio dod o hyd i waith. Bu mentoriaid yn cydweithio â phobl i ddysgu pam nad ydynt yn gweithio ac i‘w helpu i oresgyn y problemau hyn. Yna, byddai’r mentoriaid yn aros mewn cysylltiad â'r unigolion dan sylw am hyd at 12 mis ar ôl iddyn nhw ddechrau eu swydd neu hyfforddiant newydd, gan gynnig cefnogaeth barhaus iddyn nhw.

Mae'r rhaglen wedi cyrraedd ei tharged ddeufis yn gynnar, ac erbyn i'r cynllun ddod i ben ym mis Rhagfyr 2017, roedd wedi darparu 5,174 o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant ac wedi helpu 1,099 i ddod o hyd i waith.

Er bod Esgyn wedi dod i ben bellach, bydd yr hyn a ddysgwyd yn cael ei ddefnyddio yn y Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, o fis Ebrill 2018 ymlaen. Dyma raglen sydd werth £12m y flwyddyn a fydd yn mentora a chefnogi pobl sydd â ffordd bell i fynd er mwyn cyrraedd y farchnad swyddi.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae'n bleser cael dathlu llwyddiant Esgyn a chael cyfarfod â rhai o'r bobl a gafodd gefnogaeth gan y rhaglen. Rwy'n falch bod rhai wedi cael gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a bod eraill ar fin gwneud yr un fath.

“Rwy wrth fy modd bod Esgyn wedi gwneud yn well na'r targed, sef helpu 5000 o bobl i gael swyddi a hyfforddiant. Rwy wedi gweld heddiw sut y mae'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol tu hwnt ar fywydau pobl - gan roi'r hyder, y sgiliau, y profiad a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

“Dyma enghraifft wych o sut rydym yn cydweithio ar draws adrannau'r Llywodraeth a chyda nifer o sefydliadau partner i helpu pobl gaffael sgiliau, neu ddod o hyd i hyfforddiant a gwaith. Hoffwn ddiolch i'n partneriaid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am eu cyfraniad hanfodol.”