Neidio i'r prif gynnwy

Cyn ei digwyddiad swyddogol cyntaf, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn wedi trafod ei hymrwymiad i weithio gyda sefydliadau amgylcheddol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Gweinidog yn siarad cyn Gwobrau blynyddol Cadw Cymru’n Daclus, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, ble y bydd yn cyflwyno gwobrau ac yn diolch i wirfoddolwyr am y gwaith y maent yn ei wneud i wella ansawdd eu hamgylchedd lleol.   

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi golygu y gall Cadw Cymru’n Daclus gydweithio gydag Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd ar amrywiol brosiectau i wella’r amgylchedd yn lleol.  

Meddai Hannah Blythyn:

“Dwi’n hynod falch o gael y cyfle gan y Prif Weinidog i arwain gwaith sy’n cael effaith ar bob cornel o Gymru, o wella ansawdd yr aer i sicrhau mwy o gyfleoedd hamdden.   

“Dwi’n ddiolchgar i Cadw Cymru’n Daclus am fy ngwadd i’r digwyddiad yma heddiw – fy nigwyddiad cyntaf fel Gweinidog.  Maent yn enghraifft wych o sefydliad sy’n gwneud gwaith pwysig i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn cymunedau ledled Cymru.  Mae eu gweithgareddau yn helpu i sicrhau nad oes sbwriel a thipio anghyfreithlon yn ein mannau cyhoeddus, fel y gall pobl ymfalchïo a gwneud defnydd da o ble y maent  yn byw.  

“Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â Cadw Cymru’n Daclus a nifer o sefydliadau eraill sy’n cael eu cynrychioli gan fy mhortffolio.  Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau Cymru lanach, wyrddach, i’w mwynhau gan gymunedau a chenhedlau’r dyfodol yng Nghymru a thu hwnt."