Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething bod y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol wrth gaffael yn ffurfiol hen safle mwyngloddio brig Nant Helen a golchfa Onllwyn yn Ne Cymru gan y cwmni mwyngloddio brig Celtic Energy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Gweinidog yr Economi yn cadarnhau caffael tir gan ganiatáu contractwyr i baratoi i adeiladu rheilffordd sero net gyntaf y DU
  • Y safle fydd ‘stop un siop’ y DU o ran arloesi ym maes rheilffyrdd
  • Disgwylir y bydd cam cyntaf gwaith adeiladu’r cynllun meistr wedi ei gwblhau erbyn canol 2025.

Bydd y safle 700 hectar ym mhen Cwm Dulais nawr yn cael ei drawsnewid a’i ddatblygu yn ‘siop un stop' y DU ym maes arloesi rheilffyrdd, o ymchwil a datblygu, profi, gwirio ac ardystio, i arloesi ar brif reilffyrdd teithwyr ac ar reilffyrdd cludo nwyddau.

Dyfarnwyd caniatâd cynllunio amlinellol i GCRE gan Gyngor Castell-Nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys yn 2021.

Mae ystod o ymgynghorwyr a chontractwyr gan gynnwys Walters Group o Hirwaun, Fifth Studio, Arcadis a Mott MacDonald bellach yn cydweithio i gynllunio’r safle a pharatoi i gychwyn adeiladu yn gynnar yn 2023.

Mae’r Ganolfan wedi ei rhannu’n dri phrif gam:

  • Cam 1: Darparu seidins ar gyfer cerbydau rheilffyrdd o haf 2023 ymlaen
  • Cam 2: adeiladu dau gylch profi trydan, un cylch profi cyflymder uchel 6.9km o hyd, ac un cylch profi seilwaith 4km o hyd, yn ogystal â seilwaith gefnogi ac adeiladau o 2024 ymlaen
  • Cam 3: Ychwanegu rhagor o gyfleusterau stablu, cynnal a chadw a chomisiynu yn ogystal ag adnoddau ymchwil, gwesty, a pharc busnes yn 2025 a thu hwnt.

Gan ymweld â safle’r prosiect seilwaith gwerth £250 miliwn, pwysleisiodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, arwyddocâd y prosiect:

“Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd sy’n cael ei hadeiladu yma yng Nghymru yw un o’r prosiectau seilwaith pwysicaf a mwyaf creadigol sy’n digwydd yn unrhyw le yn Ewrop.

“Mae pwysigrwydd y Ganolfan i’r gymuned leol ac economi Cymru yn sylweddol. Dyma brosiect adfywio hanfodol fydd yn creu swyddi a sgiliau angenrheidiol. Rwy’n hyderus y bydd yn cefnogi dyfodol diwydiannol disglair i Gwm Dulais a’r ardal gyfagos.”

Ategodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, arwyddocâd y prosiect:

“Bydd y Ganolfan hon yn adnodd unigryw fydd yn cynnig systemau profi seilwaith, cerbydau rheilffordd a thechnolegau newydd o safon fyd-eang a fydd yn llenwi bwlch pwysig yn y diwydiant rheilffordd. Yn hanfodol, bydd o gymorth i reoli costau prosiectau rheilffyrdd drwy brofi syniadau cyn eu defnyddio ar brosiectau, a bydd yn cefnogi’r arloesi allweddol sydd ei angen arnom i gyrraedd Sero Net.”

“Mae’r caffael ffurfiol yn paratoi’r tir ar gyfer dechrau adeiladu drwy ganiatáu i’r Ganolfan a’i chontractwyr gymryd rheolaeth dros y safle a dechrau sefydlu’r isadeiledd angenrheidiol er mwyn troi’r weledigaeth uchelgeisiol a chyffrous hon yn wirionedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE, Simon Jones:

“Rydym yn symud yn gyflym i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu cyfleusterau arloesi a phrofi rheilffyrdd cynhwysfawr, datblygu ein tîm a pharatoi ar gyfer adeiladu, gyda’r nod y bydd ein cyfleuster storio cerbydau rheilffordd masnachol ar gael i’r farchnad o fewn y 12 mis nesaf.

“Bydd cam nesaf ein proses gaffael yn dechrau’n fuan gyda digwyddiad cwrdd â’r prynwr. Byddwn hefyd yn lansio cystadleuaeth arloesi ar wahân yr wythnos nesaf er mwyn rhoi cyfle i gyflenwyr a phartneriaid posibl glywed mwy ynghylch sut i gymryd rhan yn y prosiect.  Wedyn, byddwn yn lansio prosbectws buddsoddi cyffrous er mwyn denu cyllid preifat ar gyfer y prosiect. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac awdurdodau lleol Powys a Chastell-nedd Port Talbot, rydym yn benderfynol o roi Cymru a’r DU wrth graidd arloesi ym maes cludiant cynaliadwy’r unfed ganrif ar hugain.”