Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn gweld rhaglenni Llywodraeth Cymru yn helpu pobl i ddod o hyd i waith

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu’r Gweinidog yn cyfarfod ag aelodau o dimau cyflenwi dwy raglen, sef ‘Cymunedau am Waith’ a ‘Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth’. Hefyd, cafodd gyfle i gyfarfod â thrigolion lleol sydd wedi cael budd o’r ddau gynllun. Mae’r ddwy raglen yn cael cefnogaeth yr UE a byddant yn rhedeg tan 2020. Gyda’i gilydd, byddant yn cyfrannu dros £83 miliwn i wasanaethau cyflogaeth ledled Cymru.

Mae'r rhaglen ‘Cymunedau am Waith’, a ddarperir mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, yn wasanaeth cynghori yn y gymuned a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae'n gweithio gyda phobl o'r cymunedau mwyaf difreintiedig ar hyd a lled Cymru i gynyddu cyflogadwyedd pobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae hefyd yn helpu oedolion sy'n anweithgar yn economaidd ac yn ddi-waith ers cyfnod hir sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth. Hyd yma, mae’r rhaglen wedi cefnogi dros 13,000 o bobl ac, hyd at fis Rhagfyr 2017, roedd wedi helpu bron i 4000 i ddod o hyd i waith.

Mae’r Rhaglen ‘Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth’ yn rhoi cymorth i rieni sy’n anweithgar yn economaidd. Mae'n cynnig cymorth ariannol i dalu am gostau gofal plant tra byddant yn gwneud cwrs hyfforddiant i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd. Ledled Cymru, mae 43 o gynghorwyr ‘Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth’ yn gweithio yn y gymuned i helpu pobl i ddod o hyd i atebion amrywiol i oresgyn rhwystrau gofal plant, gan ganiatáu iddynt baratoi ar gyfer dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy.  Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chyflenwi ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau, yn datblygu ar wasanaethau Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf ac yn ategu prosiectau eraill, fel Cymunedau am Waith. Mae’r cynllun wedi helpu dros 750 o rieni i gael gwaith hyd yn hyn.

Dywedodd y Gweinidog:

“Roedd fy ymweliad â Chanolfan Noddfa yn ysbrydoledig ac yn ddifyr tu hwnt. Roedd yn bleser cael cyfarfod â phobl sydd wedi elwa ar y ddau gynllun. Braf oedd clywed sut oeddent wedi bwrw ati i ddod o hyd i waith a chyfleoedd hyfforddi, ar ôl goresgyn anawsterau.

"Cyflogaeth gynaliadwy yw'r ffordd orau allan o dlodi o hyd. Mae’r ddwy raglen hon gyda’i gilydd yn cefnogi’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac yn darparu cyfle gwirioneddol i bobl gyflawni eu dyheadau.”