Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi llongyfarch Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y Gogledd am ddatblygu ei Chynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gyfer 2017-18.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r ail gynllun blynyddol, a chafodd ei lansio yn yr Uwchgynhadledd Sgiliau Rhanbarthol yn Venue Cymru ddydd Iau (29 Medi).

Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd a’i ffrwd gwaith Sgiliau a Chyflogaeth sy’n ffurfio Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn y Gogledd. 

Mae’n cynnig cymorth ac yn cydgysylltu ar lefel ranbarthol, hynny ar y cyd â llifau gwaith eraill sy’n cefnogi cadwyni cyflenwi a buddsoddi pellach mewn trafnidiaeth a seilwaith, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio a gweithio ar draws ffiniau. 

Y gydweledigaeth yw rhanbarth gydlynol a hyderus lle mae’r economi’n tyfu’n gynaliadwy gan elwa ar lwyddiant sectorau economaidd uchel eu gwerth a’i chysylltiad ag economïau Pwerdy Gogledd Lloegr ac Iwerddon. 

Eu hamcan yw datblygu sylfaen sgiliau’r rhanbarth a sbarduno cyflogaeth, gwella’r cyflenwad o sgiliau uwch mewn clystyrau economaidd uchel eu gwerth a thaclo diweithdra o bob math. 

Wrth annerch yr uwch-gynhadledd, dywedodd y Gweinidog: 

“Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn rhan ganolog o bolisi sgiliau Cymru. 

“Yng Nghymru, yr uchelgais yw sbarduno cyflogaeth a sgiliau trwy annog darparwyr sgiliau i gysylltu cyflenwi’r sgiliau hynny a chynlluniau ariannu â’r cyfleoedd y mae buddsoddiadau strategol a thwf busnesau yn eu rhanbarthau yn eu creu.” 

“Bydd cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn llywio penderfyniadau cynllunio’r darparwyr ac yn sylfaen gadarn o dystiolaeth i seilio penderfyniadau buddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol arnynt.

“Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu creu amgylchedd ôl-ddysgu sy’n ateb y gofyn ac yn rhoi Cymru o flaen gwledydd eraill y Deyrnas Unedig a’r byd.  Bydd darparu sgiliau yn y rhanbarthau yn ganolog i hynny. 

Mae fersiwn ryngweithiol ar-lein o Gynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth y Gogledd ar gael ichi ei gweld ar wefan NWEAB.