Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi llongyfarch ysgol ym Mhowys am sicrhau bod iechyd a lles holl aelodau'r gymuned yn ganolog i'w gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ysgol Gungrog, sef ysgol feithrin a babanod yr Eglwys yng Nghymru yn y Trallwng, yw'r 100fed ysgol yng Nghymru i dderbyn Gwobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach.  

Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw'r wobr orau y gall ysgol ei chael drwy Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy'n cael eu rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r wobr, sy'n cael ei hasesu'n annibynnol ar ôl i ysgol fod yn rhan o'r cynllun am naw mlynedd, yn cael ei rhoi i'r ysgolion sy'n profi eu bod yn ymroddedig i hyrwyddo iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol i holl aelodau'r ysgol a'r gymuned leol.

Aeth Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i Ysgol Gungrog heddiw i ddathlu llwyddiant yr ysgol ac i gyflwyno plac y Wobr Ansawdd Genedlaethol iddynt. Aeth rhai o ddisgyblion saith mlwydd oed yr ysgol â'r Gweinidog am dro o amgylch yr ysgol gan ddangos iddi'r holl waith y maent wedi bod yn ei wneud i’w helpu i gadw'n iach. 

Meddai Rebecca Evans:

"Rwyf wedi gwirioni bod Ysgol Gungrog yn hybu iechyd i bawb sy'n dysgu, gweithio a chwarae yma. Mae'r ysgol yn gweithio'n galed i helpu disgyblion a staff i wneud dewisiadau doeth ynghylch materion sy'n effeithio ar eu hiechyd, megis y bwyd y maen nhw'n ei fwyta, faint o ymarfer corff y maen nhw'n ei wneud, a pheidio â smygu.
"Drwy gydweithio a sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan, mae'r ysgol yn helpu i gadw'r gymuned yn iach, yn ddiogel ac yn hapus. Mae'r bobl ifanc yn datblygu arferion gwych, ac rwy'n siŵr y bydd yn sylfaen gadarn iddynt ar gyfer y dyfodol.Mae'n fraint cyflwyno'r plac hwn i Ysgol Gungrog am eu hymroddiad i iechyd a lles eu cymuned. Llongyfarchiadau!”