Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn penodi Dau Aelod i Fwrdd Gyrfa Cymru

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y penodiadau yn cychwyn ar 17 Tachwedd 2017 ac yn dod i ben ar 16 Tachwedd 2020.

Is-gwmni o dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru yw Gyrfa Cymru. Mae’n rhoi arweiniad a chyngor o ansawdd uchel i bobl o bob oed am yrfaoedd – ac  mae’r wybodaeth a roddir yn ddiduedd ac yn ddwyieithog.

Ms Liz Harris wedi ymddeol o fod yn weithiwr proffesiynol i‘r GIG, ac mae ganddi brofiad helaeth o nyrsio a rheoli. Mae’n rheolwr profiadol sydd ag arbenigedd mewn cynllunio’r gweithlu ac mewn dysgu a datblygu.

Uwch-reolwr yn Chwarae Teg yw Emma Richards, sy’n arwain ar gynllunio a chyflenwi cyfleoedd i ddatblygu gyrfa, sgiliau rheoli a sgiliau arwain ar gyfer merched ledled Cymru. Yn dilyn cystadleuaeth agored, mae Emma wedi ei phenodi yn aelod o’r Bwrdd am yr eilwaith. Mae ganddi brofiad eang o weithio ar lefel Bwrdd.   

Ni cheir tâl am swydd wirfoddol fel Aelod o’r Bwrdd. Mae gofyn i’r sawl sy’n cael ei benodi ymrwymo i wneud y swydd am 8 diwrnod o leiaf. Nid yw’r naill neu’r llall o’r ddwy a benodwyd wedi datgan eu bod yn ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol. 

Wrth groesawuֺ’r penodiadau, dywedodd y Gweinidog:

“Rwy’n credu bod rôl y Bwrdd, a’r berthynas o ran atebolrwydd rhwng y Cadeirydd, Aelodau’r Bwrdd a Gweinidogion Cymru yn hynod bwysig.”

"Mae gan y Bwrdd rôl allweddol o ran cyflawni cylch gwaith Gyrfa Cymru a sicrhau bod y gwasanaethau’n llwyddo i gael yr effaith fwyaf posibl. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw."