Gweinidog yn ymweld â Chil-maen i drafod menter addysg oedolion
Cychwynnodd Prosiect Dechrau Dysgu ym mis Medi 2012, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ei fwriad yw codi safon sgiliau oedolion a'u cyrhaeddiadau addysgol drwy ei gwneud yn rhwydd i bawb gael dysgu yn y gymuned.
Mae cyrsiau a gweithdai achrededig a rhai sydd heb eu hachredu'n cael eu cyflwyno yn yr ysgol ac mewn lleoliadau cymunedol eraill. Mae’r rhain wedi’u llunio'n benodol i gael gwared ar rwystrau, fel bod pobl yn y gymuned yn gallu magu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i chwilio am waith.
Mae'r ddarpariaeth wedi cael ei chynllunio hefyd i ddiwallu amrywiaeth eang o anghenion dysgwyr, o sgiliau sylfaenol a chyrsiau TGCh i wahanol gyrsiau achrededig gan gynnwys gradd sylfaen mewn Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Gweinidog gyfle i gwrdd â rhai o'r oedolion sydd wedi elwa ar y prosiect a chlywodd eu hanesion personol ynghylch sut y mae wedi helpu i weddnewid eu bywydau, dysgu sgiliau newydd a manteisio ar gyfleoedd newydd o ran gwaith.
Wedi'r ymweliad, dywedodd y Gweinidog : "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o fenter ddysgu sy'n deillio o'r gymuned, ac sydd wedi ei chynllunio gan y gymuned ar gyfer eu cymuned eu hunain a dw i'n canmol Ysgol Gynradd Cil-maen am ei rhan allweddol yn gwaith.
"Mae'n amlwg bod yr ysgol yn selog dros ddysgu gydol oes ac wedi ymroi i feithrin ethos o weithio a dysgu gyda'i gilydd, wedi ei seilio ar barch gan oedolion a phlant, y naill i'r llall.
"Roedd clywed gan y rhai sydd wedi elwa ar y prosiect yn ysbrydoliaeth i mi, ynghyd â gweld drosof fy hun yr effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael ar eu bywydau a'u hyder."