Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn nodi'r ffaith ei bod yn wythnos Parciau Cenedlaethol, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd tri Pharc Cenedlaethol Cymru yn cael yr un faint o gyllid â'r llynedd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cadarnhad hwn am y cyllid yn rhoi sicrwydd ariannol i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol drwy roi swm ychwanegol o £1.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. 

Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol. Mae'r ddogfen yn amlinellu'r meysydd sy'n cael  blaenoriaeth gan y Gweinidog ac yn rhoi eglurder i'r Parciau Cenedlaethol a'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEoedd) ar ôl cyfnod o gynnal adolygiadau ac yn barod ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE.

Mae'n galw ar y cyrff rheoli i gyflawni nifer o flaenoriaethau, gan gynnwys y Cynllun Adfer Natur, y strategaeth goetiroedd ar ei newydd wedd a Cymraeg 2050.  

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd y Gweinidog y bydd pob un o Barciau Cenedlaethol ac AHNEoedd Cymru yn cael eu cadw ac na fydd eu rôl yn cael ei gwanhau. Mae'r Gweinidog hefyd wedi dyrannu £3.4 miliwn i gefnogi  amrywiaeth eang o brosiectau ychwanegol, gan gynnwys gwella mynediad, hyrwyddo cadwraeth ac adfywio rhai o'u hardaloedd mwyaf bregus. 

Dywedodd y Gweinidog:

"Dw i am roi sicrwydd i'r Parciau Cenedlaethol yn ystod y cyfnod ansicr sydd ohoni. Felly, dw i wedi gwrthdroi'r toriadau yr oedd Awdurdodau'r Parciau yn eu hwynebu i'w cyllidebau, sy'n golygu y bydd £1.5 miliwn yn ychwanegol ar gael dros y ddwy flynedd nesaf. 

Mae'n Hardaloedd trawiadol o Harddwch Naturiol Eithriadol a'n Parciau Cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau ecosystemau cyfoethog a chymunedau cryf a ffyniannus ac maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hamdden. Mae'r cyhoeddiad hwn yn tystio i'r ffaith fy mod yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod y tirweddau dynodedig a'u cymunedau'n parhau i ffynnu ac i lwyddo."