Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn heddiw fod £600,000 wedi'i neilltuo ar gyfer creu canolfan newydd genedlaethol i fonitro'r arfordir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Ganolfan newydd yn casglu data monitro ar hyd arfordir Cymru, inni ddeall yn well beth yw effaith hinsawdd sy'n newid ar ein harfordir ac i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn amddiffynfeydd môr yn yr ardaloedd sy'n wynebu'r perygl mwyaf. 


Trwy dargedu'r gwaith monitro a'i gynnal yn gyson, down i ddeall yn well sut mae'n systemau arfordirol cymhleth yn esblygu o dan effaith y newidiadau yn yr amgylchedd. Bydd y monitro'n ddefnyddiol hefyd i fesur llwyddiant technegau fel rheolaeth naturiol ar lifogydd, gan gynnwys porthi traethau ac adfer morfeydd heli. 

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn cynnal eu gwaith monitro ar wahân. Bydd y Ganolfan newydd yn cynnig cynllun cydgysylltiedig ar hyd yr arfordir cyfan, gan wella'r data a'n helpu i wneud penderfyniadau cadarn sy'n seiliedig ar y dystiolaeth. 

Awdurdodau Lleol Conwy, Gwynedd a Bro Morgannwg fydd arweinwyr y Ganolfan. Bydd panel cynghori o arbenigwyr, yn cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru, Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru a'n prifysgolion, yn ei chefnogi. 

Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad yng nghyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cynulliad Cymru.


Meddai'r Gweinidog: 

"Mae'n bleser cyhoeddi heddiw y bydd £600,000 yn cael ei fuddsoddi i greu Canolfan Monitro Arfordirol Cymru. Bydd y ganolfan yn ein helpu i benderfynu ble i fuddsoddi yn y dyfodol ar lefel genedlaethol, gan helpu i leihau'r perygl i'n harfordir a'n cymunedau glan-môr. 
"Bydd pobl sy'n byw ar lan-môr Cymru'n ymwybodol iawn o effaith codiad yn lefelau'r môr ar rannau o arfordir Cymru. Mae'n bwysig felly ein bod yn gwella data monito'r arfordir  er mwyn inni ddeall yn well beth yw effaith hinsawdd sy'n newid ar arfordir Cymru. "Mae'r arian hwn yn tanlinellu'n hymrwymiad i leihau effeithiau hinsawdd sy'n newid ar ein harfordir."