Neidio i'r prif gynnwy

Gan gynnig sylwadau ar Ystadegau y Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

“Ar ddiwedd 2019 roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru mor isel ag erioed, felly mae ffigurau heddiw yn dangos yn glir y niwed y mae’r coronafeirws wedi ei gael ar fusnesau yng Nghymru, swyddi a’n heconomi yn ystod y flwyddyn heriol hon.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau proactif i gefnogi ein cwmnïau a’n pobl drwy’r cyfnodau anodd hyn. Ers mis Mawrth rydyn ni wedi sicrhau bod oddeutu £2 biliwn o gyllid cefnogi busnesau ar gael, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, £340 miliwn ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Mae’r cymorth hwn yn helpu i warchod miloedd o fusnesau ym mhob rhan o Gymru, ac mae eisoes wedi gwarchod 125,000 o swyddi a bywoliaethau yng Nghymru. 

“Hefyd, mae ein mentrau prentisiaeth newydd yn helpu busnesau o Gymru i recriwtio prentisiaid, a thrwy ein hymrywmiad COVID rydym yn addo i helpu unrhyw un sydd angen cymorth i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnesau eu hunain. Bydd ein Cynllun Gweithredu ar Allforio newydd, a lansiwyd heddiw, hefyd yn hollbwysig i helpu ein busnesau allforio i adfer, ail-adeiladu ac addasu i fywyd y tu allan i’r UE.

“Mae’r rhain yn gyfnodau hynod anodd, ond rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn i gefnogi busnesau a swyddi, yn ogystal â gwarchod iechyd pobl, ac yn y pen draw i achub bywydau.”