Neidio i'r prif gynnwy

Gan gynnig sylwadau ar Ystadegau y Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn dangos yn glir effaith niweidiol y pandemig ar bobl ledled Cymru.

Fel Llywodraeth Cymru rydyn ni’n parhau i wneud popeth y gallwn i warchod ein busnesau, ein pobl a’n heconomi yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae ein pecyn cynhwysfawr o gymorth busnes, sydd bellach yn werth dros £1.7 biliwn, y cynnig mwyaf hael i gwmnïau o Gymru o gymharu â gweddill y DU. Fel rhan o hyn, lansiwyd yn ddiweddar drydydd cam ein Cronfa Cadernid Economaidd gwerth bron £300 miliwn, felly gellir cefnogi mwy o fusnesau drwy’r cyfnod atal a thu hwnt.

Bu ein Cronfa Cadernid Economaidd eisoes yn hollbwysig i helpu dros 13,000 o fusnesau amrywiol ledled Cymru, ac mae wedi gwarchod dros 100,000 o swyddi allai fod wedi eu colli fel arall megis Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Joloda Hydraroll ar Ynys Môn a’r cwmni o Lanelwy, TRB Limited.

Rydyn ni’n gwybod bod busnesau yn wynebu pwysau ac angen rhagor o gymorth, ac rydyn ni yn parhau i edrych ar opsiynau pellach i gefnogi cwmnïau drwy’r pandemig, a hepu iddyn nhw baratoi ar gyfer bywyd wedi i’r cyfnod pontio â’r UE ddod i ben.

Rydyn ni hefyd yn benderfynol o barhau â’n gwaith i wella lefelau sgiliau ledled Cymru, a byddwn yn cyhoeddi cynlluniau i gefnogi y broses o greu cyfleoedd newydd ar gyfer prentisiaethau yn ddiweddarach yr wythnos hon, fel rhan o’n hymrwymiad o £40 miliwn ar gyfer Covid. Mae ein gwasanaeth arbennig Cymru’n Gweithio ar gael hefyd i roi cyngor ac arweiniad ac i gyfeirio pobl at gymorth di-dâl ar gyfer sgiliau a hyfforddiant i bobl sydd wedi colli eu swyddi neu sydd mewn perygl o golli eu swydd.