Neidio i'r prif gynnwy

Mae busnesau a phrifysgolion ledled Cymru yn ymateb i alwad i weithredu ledled y wlad i helpu’r GIG ddarparu gofal cymdeithasol ac offer hollbwysig i gefnogi staff.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi annog mwy o gwmnïau i ymuno â’r yn yr ymdrech.

Mae’r ddistyllfa gin In The Welsh Wind, o Geredigion, wedi dechrau cynhyrchu hylif diheintio sy’n cael ei gymeradwyo gan Sefydliad Iechyd y Byd o’u canolfan yn Gogerddan Arms.

Mae’r Rototherm Group o Fargam, yn y cyfamser, yn cynhyrchu tariannau wyneb, fydd yn cael eu defnyddio gan staff gofal iechyd, gan Premier Plastic Services Ltd ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy y cwmni o Gaerdydd Amari Plastics Ltd, a dalodd am y 2,000 uned cyntaf. 

Maent yn ymuno â’r Bathdy Brenhinol, sydd wedi addasu eu gwaith i gynhyrchu feisorau gwarchod, a Merlin Circuit Technology o Benarlâg, sydd wedi dechrau cynhyrchu peiriannau anadlu a chynnyrch CPAP ar eu safleoedd yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Bu ymateb hynod bositif gan y gymuned fusnes ac rydym yn gweld ffyrdd newydd o weithio wrth i fusnesau newid i gynhyrchu dyfeisiadau a chynnyrch, fydd yn gwneud gwahanaieth mawr i’n staff iechyd a gofal cymdeithasol.

“Dwi’n croesawu’n fawr y camau y mae busnesau wedi’u cymryd hyd yma, ac yn annog mwy i wneud yr un modd – os y gallwch, meddyliwch am y rhan bwysig y gallech ei chwarae.

“Mae gan Gymru gyfoeth o brofiad, doniau a sgiliau a bydd angen hyn mwy nag erioed i guro’r feirws hwn.”

Meddai cyfarwyddwr datblygu busnes Rototherm, Tarkan Conger:

“Mae Tîm Rototherm yn falch o weld ein tariannau wyneb yn cael eu defnyddio gan staff rheng flaen ein GIG gwych.”

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford, wedi galw ar fusnesau yng Nghymru i greu cadwyn gyflenwi newydd yng Nghymru ar gyfer cyfarpar diogelu personol i gefnogi’r GIG a staff gofal cymdeithasol, ac mae Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru yn gofyn i ddiwydiant gefnogi’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r feirws drwy feddwl am atebion newydd mewn meysydd fel rheoli heintiau.

Dylai busnesau ac unigolion sydd eisiau helpu fynd i wefan Busnes Cymru am ragor o wybodaeth a phwyntiau cyswllt.