Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyllideb Cymru bron i £1 biliwn ar ei cholled erbyn 2024 oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gadw ei haddewid na fyddai Cymru'n colli’r "un geiniog" am i’r DU adael yr UE, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad cyn cyhoeddi Papur Gwyn “Levelling Up” Llywodraeth y DU, mae'r Gweinidog heddiw yn galw ar Lywodraeth y DU i barchu datganoli a rhoi’r £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog fod y 'drifft a'r anallu i benderfynu’ sydd wedi nodweddu cynlluniau Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU bellach yn costio swyddi a phrosiectau datblygu i Gymru.  

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Dros ddwy flynedd ers addewidion mawr Prif Weinidog y DU, mae'n amlwg bellach bod gan Gymru lai o lais a hynny dros lai o arian. 

"Mae’r drifft yn Whitehall a’r anallu yno i wneud penderfyniadau yn golygu bod ein cymunedau lleiaf cefnog yn colli swyddi a phrosiectau ar yr adeg gwaethaf posibl. Cadarnhaodd Adolygiad Gwariant y llynedd fod Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i ad-dalu’r holl arian Ewropeaidd y byddai Cymru wedi’i gael ac nid oes unrhyw arwydd y bydd y Papur Gwyn yn newid hyn.

"Pe bai Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid, byddai Cymru wedi derbyn £375 miliwn o arian newydd bob blwyddyn ers mis Ionawr 2021. Yn hytrach, dim ond £46.8 miliwn oedd cyfran Cymru o’r cronfeydd ôl-UE yn 2021/22.

"Mae ein dadansoddiad ein hunain yn dangos y bydd cyllideb Cymru £1 biliwn ar ei cholled erbyn 2024.

"Nid "codi’r gwastad” yw hyn, ond “gostwng y gwastad.

Yn yr Adolygiad o Wariant y llynedd, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) a fyddai’n cymryd lle cyllid yr UE "dros amser" yn werth £1.5 biliwn y flwyddyn i’r DU gyfan.

Ond yn 2022/23, dim ond £400 miliwn fydd gwerth yr SPF i’r DU gyfan. Pe bai Cymru a'r DU wedi aros yn yr UE, byddai Cymru wedi derbyn o leiaf £375 miliwn y flwyddyn.

Ac yn 2021/22, dim ond £46.8 miliwn ddaeth i Gymru o beilot yr SPF, y Gronfa Adfywio Cymunedol (CRF), ar gyfer 165 o brosiectau.

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati i ddarparu cyllid yn lle cronfeydd yr UE yn dangos y bydd Cymru'n colli tua £750m dros dair blynedd (2021-22 i 2023-24) o Gronfeydd Strwythurol.

Ynghyd â'r golled o £242 miliwn yn y gyllideb i ffermwyr, ers i Lywodraeth y DU ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ddarparu arian yn lle arian yr UE, hyd at ddiwedd cyfnod y cylch gwariant hwn yn 2023-24, bydd Llywodraeth y DU heb neilltuo gwerth bron £1 biliwn y byddai Cymru wedi’i gael fel arall trwy’r UE. 

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Byddai unrhyw gynllun teilwng wedi cael ei gyhoeddi y llynedd. Byddai blaenoriaethau clir wedi bod ynddo dros greu economïau lleol cryfach i ailfantoli economi’r DU. Yn lle hynny, mae gennym botiau ariannu digyswllt, wedi’u creu ar wahân yn Whitehall.

"Rydym eisoes wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu’n blaenoriaethau fel ein hymrwymiad i ddarparu 125,000 o brentisiaethau dros gyfnod y Senedd hon. Mae ceisio llenwi’r twll a adawyd yn sgil colli arian yr UE a addawyd i Gymru yn ein ffrwyno rhag gallu cefnogi cynigion cadarn a fyddai'n atgyfnerthu cryfderau’n heconomi.

"Mae Deddf anghyfansoddiadol y Farchnad Fewnol yn cael ei defnyddio i sarnu datganoli democrataidd drwy ein rhwystro rhag gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru.

"Mae fy neges i Weinidogion y DU yn glir - parchwch ddatganoli a rhowch yr £1 biliwn a addawyd i Gymru yn ôl i Gymru.

"Nid yw'n rhy hwyr i'r Ysgrifennydd Gwladol, Michael Gove, gynnig ffordd ymlaen sy’n seiliedig ar wneud penderfyniadau ar y cyd. Nid yw'n rhy hwyr am gyfaddawd didwyll.