Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) ddatblygu strategaeth sefydlog a thymor hir ar gyfer taclo’r heriau economaidd difrifol sy’n wynebu Cymru a’r DU, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyna oedd apêl y Gweinidog cyn cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fusnes a Diwydiant yn 2023.  Mae’r Grŵp yn tynnu ynghyd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn dilyn y cyfarfod, bydd y Gweinidog yn rhoi adroddiad i’r Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n ddi-dor i flaenoriaethu’r gwaith tymor hir sydd ei angen er mwyn creu swyddi gwell mewn busnesau cryfach, culhau'r bwlch sgiliau a mynd i'r afael â thlodi.  Bydd Gweinidog yr Economi yn galw am ffocws cryf ar dwf cynaliadwy sy'n datgloi cyfleoedd i Gymru ac yn rhoi terfyn ar gyfnod o ganoli economaidd niweidiol. 

Yn y misoedd nesaf, bydd Gweinidog yr Economi’n lansio nifer o fentrau eraill i gefnogi economi Cymru, gan gynnwys:

  • cynllun gweithredu sgiliau sero net newydd, fydd yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau a gweithwyr i fynd i’r afael a’r sgiliau a fydd yn gyrru economi carbon isel
  • strategaeth arloesi newydd gyda phwrpas clir, o ganlyniadau iechyd gwell i fusnes cryfach, gyda'r bwriad o ennill mwy o fuddsoddiad mewn Cymru fwy arloesol
  • cynllun benthyciadau gwyrdd newydd i Fusnesau sef benthyciadau rhad gyda chymorth ymgynghorydd i helpu busnesau i leihau eu costau ynni am byth
  • cynllun gweithredu wedi’i adfywio ar gyfer y sector Gweithgynhyrchu, fydd yn amlinellu ein huchelgais ar gyfer y sector gweithgynhyrchu gyda golwg rhyngwladol gan gynnal swyddi da mewn cymunedau lleol.

Bydd y Gweinidog hefyd yn amlinellu’r gwaith sydd wedi ei wneud wrth gydweithio’n llwyddiannus â Llywodraeth y DU ar Borthladdoedd Rhydd, a dyfodol Polisi Ffiniau.

Ond ceir heriau a phryderon mewn nifer o feysydd y mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar fyrder arnynt, gan gynnwys masnachu allyriadau carbon, y clwstwr lled-ddargludyddion a Chronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething:

“Mae economi’r DU  bellach mewn sefyllfa waeth nag unrhyw genedl G7 arall ac mae canoliaeth economaidd yn rhan o'r broblem.  Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr yn rhagweld y bydd diweithdra yng Nghymru’n codi rhwng 20,000 a 40,000 dros y 18 mis nesaf. Disgwylir i chwyddiant aros o gwmpas y 10% dros hanner cynta’r flwyddyn, ac mae cynhyrchiant yn wan.

“Llwyddodd mini-gyllideb drychinebus Llywodraeth y DU ddechrau’r hydref i waethygu effeithiau’r cynnydd mewn biliau a chwyddiant ynni gan selio drwg y gellid fod wedi’i osgoi, ar adeg na ellid fod wedi’i dychmygu ei gwaeth.

Mae cyhoeddiad Liberty Steel wythnos ddiwethaf yn profi ei bod yn hanfodol ac nid yn fater o ddewis, bod Llywodraeth y DU yn gweithredu.

“Er lles Cymru a gweddill y DU, mae angen i Lywodraeth y DU ddatblygu strategaeth gyfrifol ac ystyrlon i sicrhau adfywiad a thwf cynaliadwy yr economi.

"Mae'r gwersi'n glir - mae gan ymgysylltu da y pŵer i sicrhau canlyniadau economaidd cryfach.  Mae'n bryd i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn partneriaeth i ddatblygu economi Gymreig gryfach, o fewn economi tecach a mwy diogel ar gyfer y DU."