Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cwmnïau o Gymru mewn pum sector allweddol yn cael eu dwyn ynghyd i helpu ei gilydd i allforio mwy o'u cynnyrch ledled y byd, fel rhan o raglen newydd sy'n cael ei lansio gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Rhaglen Clwstwr Allforio yn un o gyfres o fentrau cymorth newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Allforio Cymru, sy'n anelu at greu sector allforio cryf, bywiog a chynaliadwy i helpu i gryfhau'r economi, diogelu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru.

Ei nod yw sbarduno twf allforion Cymru yn y tymor hwy, gan gynyddu'r cyfraniad y mae allforion yn ei wneud i economi Cymru, gan gynnwys drwy ehangu sylfaen allforio Cymru.

Yn 2019, allforiodd cwmnïau yng Nghymru werth £17.8 biliwn o nwyddau i farchnadoedd ledled y byd - gyda'r UE yn bartner masnachu mwyaf arwyddocaol Cymru. Roedd 106,015 o fusnesau yn gweithredu yng Nghymru yn 2019 ond mae ffigurau Cyllid a Thollau EM yn dangos mai dim ond tua 5,243 ohonynt oedd yn allforio nwyddau y flwyddyn honno.

Mae'r rhaglen newydd hon wedi'i chynllunio i ddod â chwmnïau at ei gilydd i ddatblygu eu gallu i allforio. Bydd yn helpu i ddatblygu rhwydweithiau cryf o gymorth, gan weithio ar sail "un i lawer" i gefnogi eu datblygiadau allforio, gan helpu i sicrhau bod cwmnïau'n dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn rhannu gwybodaeth a phrofiad.

Bydd y rhaglen yn gweithio gyda chwmnïau mewn sectorau allweddol, gan gynnwys technoleg, gweithgynhyrchu gwerth uchel, cynhyrchion defnyddwyr, ynni glân a gwyddorau bywyd. Bydd y clystyrau allforio newydd yn seiliedig ar fodel clwstwr allforio llwyddiannus Bwyd a Diod Cymru. 

Mae lansio'r rhaglen newydd yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, wrth i fusnesau Cymru barhau i wella ac ailadeiladu o effeithiau COVID-19, yn ogystal â dod i delerau â'r berthynas fasnachu newydd â'r UE. 

Mae'r rhaglen yn rhan greiddiol o Gynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru, sy'n gosod ymrwymiadau Gweinidogion i flaenoriaethu datblygu allforio a chefnogi busnesau Cymru ar eu camau tuag at allforio, o ysbrydoli busnesau i ddechrau allforio, gan adeiladu eu gallu i allforio; helpu busnesau i ddod o hyd i gwsmeriaid tramor; a chael mynediad i farchnadoedd tramor.

Mae Cyflawni'r Cynllun Gweithredu Allforio yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, yn ogystal â bod yn thema ganolog o fewn Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a atgyfnerthodd uchelgeisiau Gweinidogion i godi proffil rhyngwladol Cymru; datblygu economi Cymru, gan gynnwys cynyddu allforion; a sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Lansiodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y rhaglen newydd yn ystod ymweliad â Catsci yng Nghaerdydd, sy'n datblygu prosesau gweithgynhyrchu fferyllol sy'n amgylcheddol gynaliadwy. Mae'r cwmni wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i allforio, sydd wedi ei helpu i ymweld â marchnadoedd allweddol, mynychu sioeau masnach a nodi a chwrdd â phartneriaid busnes posibl.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau ledled Cymru i'w helpu i greu swyddi newydd yn niwydiannau y dyfodol.

"Mae allforio nwyddau a gwasanaethau eisoes yn cyfrannu cryn dipyn i'n heconomi. Mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynnal a datblygu'r cyfraniad hwn er mwyn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yn awr ac yn y dyfodol. Dyna pam rydym yn benderfynol o wella perfformiad allforio Cymru hyd yn oed ymhellach, er gwaethaf yr heriau yn yr amgylchedd masnachu byd-eang yn ddiweddar.

"Mae'r Rhaglen Clwstwr Allforio newydd rwy'n ei lansio heddiw yn rhan hanfodol o'n Cynllun Gweithredu Allforio, sydd, yn fy marn i, y rhaglen fwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr o gymorth allforio a sefydlwyd erioed yng Nghymru.

"Bydd yn cefnogi ac yn estyn allan at fwy o gwmnïau i ddatblygu eu gallu i allforio, gan eu helpu i ddatblygu cyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd. Bydd hyn yn helpu i greu twf economaidd, gan helpu i greu swyddi newydd a gwell yn ein cymunedau.

"Mae hyn i gyd yn rhan o'n cenhadaeth i greu economi werdd ffyniannus, deg a gwyrdd yng Nghymru.

Dywedodd Dr Jenny Wallis, Rheolwr Datblygu Busnes CatSci:

"Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth allforio ac mae hyn wedi bod yn ganolog i dwf ein busnes. Gyda'r cyfleusterau newydd rydym am barhau i arloesi, adeiladu ar ein llwyddiant diweddar a datblygu ein masnach rhyngwladol ymhellach.

"Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi ein helpu gyda'n gweithgareddau allforio, gan gynnwys archwilio'r farchnad ac arddangosfeydd masnach yn ogystal â chyngor cyffredinol gan bobl wybodus a phrofiadol. Unrhyw fusnes o Gymru sy'n dymuno allforio neu allforio mwy, byddwn yn eu hannog i siarad â thîm allforio Llywodraeth Cymru.