Neidio i'r prif gynnwy

Uchelgais ar gyfer cryfderau Cymru, twf gwyrdd ynghyd â sgiliau a swyddi lleol yw prif flaenoriaethau Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a fydd heddiw (dydd Mawrth 28 Tachwedd) yn nodi ei gynlluniau i gyflawni Cenhadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gryfach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth ymateb i heriau'r digwyddiadau byd-eang, chwyddiant, cyfraddau llog a chostau ynni, bydd Llywodraeth Cymru yn nodi pedair blaenoriaeth a fydd yn llywio sut y gall Cymru ymateb i ansicrwydd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

  1. Pontio Cyfiawn a Ffyniant Gwyrdd: gwireddu’r cyfleoedd Sero Net enfawr. ac ymgysylltu â busnesau a phobl i symud tuag at drawsnewidiad cyfiawn.
  2. Platfform ar gyfer pobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant: cefnogi pobl ifanc i gael dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Rhoi blaenoriaeth i'w sgiliau a'u creadigrwydd.
  3. Partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'n heconomi bob dydd: gweithio gyda phob rhanbarth i gytuno ar gyfres lai o flaenoriaethau ar gyfer twf, swyddi lleol a buddsoddiad mawr. Cydweithio newydd i hybu'r achos dros fuddsoddi gan y DU mewn prosiectau sy'n denu llawer o fuddsoddiadau ac yn cefnogi swyddi teg sy'n cydnabod undebau llafur mewn meysydd fel ynni niwclear, ynni gwynt ar y môr a thechnoleg.
  4. Buddsoddi ar gyfer Twf: byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ganolbwyntio ar ein cryfderau cydnabyddedig i hybu buddsoddiad a thwf sy'n gwobrwyo gwaith teg a thymor hir. Bydd ein Strategaeth Arloesi newydd sy'n seiliedig ar genhadaeth yn targedu buddsoddiad newydd mewn tirwedd ôl-Undeb Ewropeaidd, gan gefnogi masnacheiddio, ymchwil a datblygu ac entrepreneuriaeth.

Wrth siarad yng Nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru, bydd y Gweinidog yn dadlau bod diferu i lawr economaidd yn fethiant llwyr ac yn nodi'r achos dros rhoi Cymru ochr yn ochr â'r economïau sy’n troi polisi diwydiannol gweithredol yn sgiliau newydd ar gyfer ffyniant hirdymor.   

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Wrth i'r economi fyd-eang newid a'r ras am sero net gyflymu, mae ein blaenoriaethau yn ymwneud â throi'r cyfleoedd hynny yn dwf busnes a gwaith sefydlog, sy'n talu'n dda.

"Mae ein huchelgais ar gyfer diwydiannau yng Nghymru wedi helpu i ddenu cannoedd o filiynau mewn buddsoddiad newydd ar gyfer clwstwr lled-ddargludyddion Casnewydd eleni yn unig. Mae ein partneriaeth gyda chwmnïau fel Siemens a Rocket Science hefyd wedi sicrhau swyddi newydd mewn gwyddorau bywyd a gemau - o Wynedd i Gaerdydd.

“Mae cryfderau cydnabyddedig Cymru sydd â gwir botensial i dyfu yn helpu i'w gwneud yn lle gwych i fuddsoddi ac mae ein blaenoriaethau economaidd yn adeiladu ar ein henw da fel llywodraeth sefydlog – un y gall busnesau weithio gyda a chynllunio gyda.

"Mae Cymru hefyd yn le gwych i ddechrau a thyfu busnes ac rwy'n falch bod y busnesau newydd rydyn ni wedi'u cefnogi ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn busnes ar ôl pum mlynedd o'i gymharu â'r farchnad gyfan.  Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer busnesau bach cryfach.  O lansio benthyciadau busnes gwyrdd newydd drwy ein Banc Datblygu, i gynyddu nifer y contractau GIG a ddyfernir i fusnesau bach a chanolig Cymru.”

Cyn yr uwchgynhadledd economaidd yng Nglyn Ebwy yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd y Gweinidog hefyd yn galw ar fusnesau i ymrwymo i rymuso menywod a gostwng rhwystrau yn y gweithle, yn enwedig yn y sectorau hynny lle nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol.

Dywedodd:

"Rwyf am i fwy o bobl ifanc deimlo'n hyderus am gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru ac i fwy o ferched a menywod ifanc weld bod ganddynt le i arwain diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.

“Rydym yn gweld gweithredu ysbrydoledig ar y mater hwn yng Nghymru ac rwy'n talu teyrnged i arweinwyr fel y Rhwydwaith Menywod mewn Seiber yn ogystal â'r menywod hynny mewn undebau llafur sy'n gwirfoddoli i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghydraddoldeb yn y gwaith. Ond mae hon yn swydd i bob un ohonom a byddwn yn archwilio sut i helpu mwy o fusnesau i ddilyn y rhai sy'n arwain yn y maes.

“Mae rhan gan bob un ohonom i chwarae mewn economi ffyniannus a’r busnesau hynny sydd sy'n tynnu ar ddoniau gweithlu mwy amrywiol yw’r rhai sydd yn adlewyrchu’r Gymru fodern.”

Mae'r fenter gymdeithasol Elite Clothing Solutions, sydd wedi'i lleoli yng Nglynebwy, yn rhoi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar waith drwy roi cyfleoedd i lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith.

Mae'r busnes, sy'n arwain consortiwm gan gynnwys Brodwaith Cyf yn Llangefni, Treorchy Sewing Enterprise yn y Rhondda a Fashion Enter yn y Drenewydd wedi derbyn y contract yn ddiweddar i wneud gwisgoedd Trafnidiaeth Cymru,  trwy ddefnyddio'r broses gaffael a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn bosibl.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Andrea Wayman:

"Mae ennill y contract i wneud gwisgoedd Trafnidiaeth Cymru yn gyflawniad gwych. Drwy ddull consortiwm bydd y gwisgoedd hyn yn cael eu gwneud yn gyfan gwbl yng Nghymru, o'r dylunio a'r gweithgynhyrchu i'r brandio.

"Yn economaidd, mae'n cynnal ac yn creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi i alluogi cyflogaeth gynhwysol – i bobl anabl a difreintiedig, gweithwyr hŷn, pobl ifanc a rhieni sengl."