Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi ymweld ag allforiwr llwyddiannus o Gymru i weld yn uniongyrchol yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r busnes yn dilyn pandemig y coronafeirws. Mae hefyd wedi annog mwy o gwmnïau o Gymru i fanteisio ar gymorth Llywodraeth Cymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau yn rhyngwladol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Industrial Automation and Control Ltd (IAC) yng Ngwent ei sefydlu ym 1989 ac mae'n un o'r prif gyfunwyr o ran systemau rheoli diwydiannol yn y DU. Mae ganddo arbenigedd penodol mewn cynhyrchu systemau gyrru cyflymder amrywiol, gyda'i gynhyrchion yn cael eu defnyddio gan lawer o frandiau trydanol mwyaf blaenllaw'r byd.

Ar hyn o bryd, mae gan IAC, sy'n cyflogi dros 65 o bobl mewn cyfleuster modern yng Nghasnewydd a 30 arall mewn nifer o leoliadau ledled y byd, archebion allforio sydd werth mwy na £3 miliwn yn bresennol. Mae allforio wedi cyfrannu at tua 50 y cant o drosiant y cwmni ers y flwyddyn 2000.

Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi helpu IAC i ennill busnes allforio newydd mewn marchnadoedd tramor newydd a rhai sy'n bodoli eisoes. Mae wedi mynychu teithiau masnach Llywodraeth Cymru i Ganada, yr UAE, a De Affrica a chafodd gymorth grant i gynnal ymweliad datblygu busnes annibynnol â Tsieina.

Daw'r ymweliad ar ôl i'r Gweinidog gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £4 miliwn dros y flwyddyn nesaf i gefnogi busnesau Cymru er mwyn dod o hyd i gyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd byd-eang, a helpu i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Allforio Cymru. 

Mae IAC hefyd yn gweithredu rhaglen brentisiaethau pedair blynedd lwyddiannus, a gwnaeth y Gweinidog gyfarfod â nifer o brentisiaid IAC cyfredol yn ystod taith o amgylch y cyfleuster gweithgynhyrchu. Ymunodd prentis cyntaf y busnes dros 25 mlynedd yn ôl ac mae'n dal i weithio i IAC heddiw.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae annog twf allforion o Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu.

“Bydd y rhaglen gynhwysfawr a phellgyrhaeddol o gymorth allforio a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar yn helpu cwmnïau fel IAC i greu swyddi a phrentisiaethau newydd yma yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos.

“Mae allforio yn rhan allweddol o fusnesau'r IAC ac rwy'n falch iawn bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi eu helpu i archwilio marchnadoedd newydd a sicrhau busnes allforio newydd dros y blynyddoedd.

“Rwy’n annog mwy o fusnesau i ddefnyddio'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddechrau allforio'r llu o gynhyrchion a gwasanaethau unigryw a blaengar rydyn ni’n eu cynnig yma yng Nghymru yn rhyngwladol.

“Heb os, bydd y cyfnod hwn yn ein hanes yn un o'r rhai mwyaf heriol i'n busnesau a'n gweithwyr, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd cyfoethog i arallgyfeirio a darparu modelau busnes mwy cynaliadwy.

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr IAC, Peter Lewis:

“Roedd yn wych cwrdd â gweinidog sy'n teimlo’n angerddol dros yr un pethau ag IAC.

“I ni, mae hyfforddi prentisiaid a masnachu'n rhyngwladol yn gwbl hanfodol i dwf ein busnes ac mae'r gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru wrth archwilio marchnadoedd tramor newydd wedi ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau allforio ac mae’n parhau i wneud hynny.