Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi ymweld â Energizer Auto UK yng Nglyn Ebwy i ddathlu chwarter canrif yn y Cymoedd ac ailddatgan ei bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cyfleuster, a sefydlwyd ym 1997, bellach yn cyflogi 50 o staff medrus sy'n cynhyrchu dros 700 o gynnyrch arogleuon a gwella golwg modurol yn amrywio o ychwanegion tanwydd i gynhyrchion golchi ceir ar draws 43 o wledydd gwahanol.

Mae gan y cwmni bartneriaeth hirsefydlog gyda Llywodraeth Cymru ac mae'n elwa ar y Rhaglen Sgiliau Hyblyg sy'n helpu cyflogwyr i ddatblygu sgiliau technegol, proffesiynol ac arweinyddiaeth eu staff.

Mae gan Energizer hefyd gysylltiadau cryf sefydledig â'r Sefydliad Arddangos Arloesol Datblygu Technegol y Cymoedd (VISTA) lle mae'r cwmni'n rhannu arferion gorau gyda chyflogwyr lleol eraill a Choleg Gwent i hyrwyddo a chreu profiad gwaith a chyfleoedd ar gyfer swyddi newydd yn yr ardal leol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn o fod yng Nglyn Ebwy, yn ymweld â Energizer Auto UK, i ddathlu eu llwyddiant yn y Cymoedd am 25 mlynedd.

"Mae cefnogi busnesau fel yr un yma i addasu, datblygu eu gweithlu a datblygu sgiliau yn hanfodol i'n huchelgeisiau ar gyfer economi fwy ffyniannus yng Nghymru ar ôl y pandemig. Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn ganolog i hyn.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i newid bywydau pobl er gwell a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl."

Dywedodd y Rheolwr Gwaith Mark Thomas o Energizer Auto UK:

"Gyda chymaint o ansicrwydd ac anwadalwch yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae'n wych cael dathlu'r garreg filltir bwysig hon.

Mae'r tîm yn Rassau wedi gweithio'n galed i gynyddu effeithlonrwydd wrth ddod yn fwy ymatebol i amrywiadau yn y galw, mae hyn wedi arwain at dwf sylweddol dros y 2 flynedd ddiwethaf.

"Gyda'r twf hwn mae'r gweithle wedi gorfod addasu a newid. Mae Rhaglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan bwysig o uwchsgilio a pharatoi'r gweithlu.

"Ar ran Energizer a'n staff hoffwn ddiolch i Weinidog yr Economi, Vaughan Gething am neilltuo amser i ymweld â'n safle, gan nodi 25 mlynedd o weithredu yn Ne Cymru."