Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, gyfle heddiw i weld Cei Llechi yng Nghaernarfon ar ei newydd wedd, yn dilyn prosiect adfywio gwerth £5.9 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn, sydd wedi ei gwblhau yn ddiweddar, wedi trawsnewid adeilad Swyddfa’r Harbwr a’r adfeilion y tu ôl iddo a’u hadfywio, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru.

Gwelodd y Gweinidog y gwaith diweddar sydd wedi adfywio’r rhan hon o’r dref a oedd gynt wedi dirywio, rhan sydd bellach yn darparu cyfleoedd masnachol i’r ardal.

Heddiw yn Cei Llechi mae’r adfeilion gynt wedi’u trawsnewid yn 19 o unedau gweithio ar gyfer gwneuthurwyr crefftau / artisan lleol a bwyty. Mae’r safle hefyd yn cynnwys 3 llety gwyliau hunanddarpar, gydag ystafell fwrdd Swyddfa’r Harbwr ar gael i’w llogi ac ystafell yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd hanesyddol Cei Llechi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Y peth hanfodol yw bod diwydiant a chrefft yn dychwelyd i’r rhan hon o Gaernarfon, er ar raddfa wahanol i’r hen ddyddiau.

Dywedodd Ioan Thomas o Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Caernarfon:

“Roedd y rhan fwyaf o’r adeiladau mewn cyflwr gwael iawn, doedden nhw ddim yn ddeniadol ac yn codi cywilydd braidd ar Ymddiriedolaeth yr Harbwr a’r dref ei hun – yn enwedig gan eu bod mor agos i’r castell, sy’n Safle Treftadaeth y Byd.

Fel Ymddiriedolaeth, fe wnaethon ni ystyried sawl opsiwn dros gyfnod hir ac roedden ni’n awyddus i geisio adfywio’r hen gei llechi mewn rhyw ffordd a dathlu pwysigrwydd y rhan hon o’r dref.

Nawr mae gennym Gei Llechi cwbl unigryw ac arbennig yn arddangos doniau lleol ac yn cynnig gwaith, ynghyd â gwella gwedd y rhan bwysig hon o’r dref ar lannau afon Seiont”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae datblygiad Cei Llechi yn rhan o stori bwysig – sicrhau bod Caernarfon yn gyrchfan. Mae clwstwr o brosiectau fel hwn yn adlewyrchu ffocws Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cyrchfannau o’r radd flaenaf, gan gefnogi gweithgareddau gydol y flwyddyn a chreu effaith economaidd yn uniongyrchol yn y dref ac yn ehangach ac yn anuniongyrchol yn yr ardal drwy greu effeithiau cadarnhaol yn y gadwyn gyflenwi ac o ran gwariant ymwelwyr. 

Rwy’n falch o weld y gwaith adfywio sydd wedi’i wneud drwy’r bartneriaeth hon yn Cei Llechi – ac yn falch o weld sut mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn i Gaernarfon. Mae’r cyfuniad arloesol o adfywio wedi dod â phwrpas newydd i safle a oedd wedi dadfeilio. Drwy weithgynhyrchu, manwerthu, cyflwyno gwybodaeth, a lletygarwch, mae’r safle yn bywiogi’r rhan hon o’r dref a oedd gynt yn segur, ond bydd hefyd yn hyrwyddo cynnyrch a phrofiadau Cymreig i’r dyfodol.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Cei Llechi yn helpu i gynnal swyddi, i gefnogi twf economaidd, i hybu twristiaeth ac i atgyfnerthu’r ymdeimlad o falchder sydd eisoes yn bodoli ymysg pobl leol o ran treftadaeth unigryw Caernarfon.

“Mae Cei Llechi yn cynnig llefydd gweithio creadigol newydd, gan gyflwyno hanes a threftadaeth rôl Caernarfon yn y diwydiant llechi yn yr 1800au ac arwyddocâd hynny yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi treftadaeth gyfoethog a ffyniannus Cymru. Mae ein rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cefnogi prosiectau ac yn cysylltu pobl a chymunedau â’u treftadaeth ac mae hon yn enghraifft wych o ddod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer hen safleoedd."

Mae 70% o’r unedau eisoes yn cael eu defnyddio gan amrywiaeth o ddarparwyr bwyd a diod, artistiaid, gwneuthurwyr crefftau a gof, gyda Cei Llechi ar hyn o bryd yn cyflogi dros 30 o weithwyr yn uniongyrchol.

Dywedodd Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon:

“Rydym wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn o’r dyddiau cynnar. Yn ystod y trafodaethau cychwynnol hyd at y gwaith adeiladu a chwblhau – ein rôl oedd cynorthwyo Ymddiriedolaeth yr Harbwr ac ymgynghori’n agos gyda nhw. Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, mae ein rôl wedi newid ac mae Galeri wedi dod yn lesddeiliad ac yn gyfrifol am y gwaith dydd i ddydd o reoli Cei Llechi a delio ag ymholiadau”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i: Cei Llechi: prosiect adfywio gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Galeri Caernarfon Cyf.