Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfarfod heddiw i drafod goblygiadau refferendwm yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, yn croesawu ei gymheiriaid – Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon Máirtín Ó Muilleoir ACD ac Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyllid a’r Cyfansoddiad, Derek Mackay ASA – i Gaerdydd i gynnal trafodaethau allweddol.  

Bydd y tri Gweinidog Cyllid yn trafod effaith y bleidlais yn y refferendwm fis diwethaf ac effaith bosibl hynny ar gyllid cyhoeddus.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Drakeford: 
“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Máirtín a Derek i Gaerdydd ar gyfer y trafodaethau pwysig hyn. Yn sgil canlyniad y refferendwm mae goblygiadau amlwg i’n gwledydd ac i’n cyllid cyhoeddus, gan gynnwys cyllideb Cymru.    “Gan fod cymaint o ansicrwydd ar ôl y refferendwm, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd i drafod sut y gallwn gydweithio i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU a cheisio sicrhad i’n gweinyddiaethau datganoledig.”