Mae Gweinidogion Cyllid y gwledydd datganoledig wedi uno heddiw i alw am hyblygrwydd, tegwch ac eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Heddiw, am y tro cyntaf erioed, mae’r tri Gweinidog Cyllid - Rebecca Evans, Conor Murphy a Kate Forbes, wedi gwneud datganiadau llafar ar yr un pryd yn eu deddfwrfeydd eu hunain, gan ddangos maint eu pryder. Mae’r Gweinidogion yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i ymdopi â goblygiadau COVID-19. Maent hefyd yn galw am gael chwarae rhan ystyrlon yn yr Adolygiad o Wariant er mwyn gallu cynllunio Cyllidebau, ac am sicrwydd y bydd cyllid llawn ar gael yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd yn cael a’i reoli gan y Gweinyddiaethau Datganoledig.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:
“Rwy’n canolbwyntio ar ddiogelu pobl Cymru rhag effeithiau gwaethaf y pandemig yn ogystal â gosod sylfaen ar gyfer ein hadferiad sy’n seiliedig ar swyddi, ein pobl ifanc a’r amgylchedd.
“Fodd bynnag, mae penderfyniad y Canghellor i ganslo Cyllideb y Deyrnas Unedig yn yr hydref, ochr yn ochr â’r ansicrwydd ynglŷn â’r Adolygiad o Wariant a’r diffyg gwybodaeth ynghylch pa gyllid fydd ar gael yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, oll yn cyfrannu at wneud y dasg hon yn un anoddach fyth.
“Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw i ddarparu’r tegwch, yr hyblygrwydd a’r eglurder sydd eu hangen arnom i gefnogi a diogelu ein cymunedau a’n busnesau.”
Dywedodd Conor Murphy, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon:
“Fel Gweinidogion Cyllid, rydyn ni’n cynrychioli dros 10 miliwn o bobl, a heddiw rydyn ni’n siarad ag un llais. Rydyn ni’n galw am fwy o hyblygrwydd cyllidol i ymdopi â goblygiadau COVID-19.
“Rydyn ni’n galw am gael chwarae rhan briodol yn yr Adolygiad o Wariant fel y gallwn gynllunio ein Cyllidebau. Rydyn ni hefyd yn galw am gyllid llawn yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, ac iddo gael ei reoli’n lleol.”
Dywedodd Ms Forbes, Ysgrifennydd Cyllid yr Alban:
“Heddiw, mae gweinidogion cyllid y gweinyddiaethau datganoledig yn cymryd y cam digynsail hwn i ddangos lefel y pryder yr ydym yn ei rannu ar draws gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig, ar draws gwahanol bleidiau ac ar draws gwahanol ddeddfwrfeydd.
“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y materion hyn. Maen nhw’n effeithio’n uniongyrchol ar ein gallu i ymateb i COVID-19, i reoli cyllid ein gwledydd ac i gefnogi ein cymunedau a’n busnesau yn ystod y pandemig.
“Fel cynrychiolwyr ein tair gwlad, rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu’r eglurder, y sicrwydd a’r hyblygrwydd sydd eu hangen arnom. Rhaid i Lywodraeth y DU ymateb i’r galwadau hyn.”