Yn crynhoi'r gorchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Caffael 2023.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi caniatâd i Rheoliadau Deddf Caffael Llywodraeth y DU 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025.
Mae'r tabl isod yn crynhoi'r Gorchymyn Cychwyn hwn a wnaed o dan Ddeddf Caffael 2023 ac yn nodi'r dyddiadau y daw’r gwahanol adrannau i rym.
Mae hefyd yn gwahaniaethu rhwng caffael a reoleiddir gan Weinidogion Cymru a chaffael a reoleiddir gan lywodraeth y DU h.y. trefniadau caffael a neilltuir
Mae gan Lywodraeth y DU (UKG) ddyddiad dod i rym cynharach ar gyfer Adran 69. Felly, pan fo awdurdod Cymreig datganoledig wedi dyfarnu contract cyhoeddus o dan drefniant caffael a neilltuir (heb ei ddatganoli) (h.y. fframwaith neu farchnad ddynamig yn Lloegr) bydd angen yr adroddiad cyntaf ar gyfer y contractau o fewn y cwmpas ym mis Ebrill 2026.
Er nad yw Adran 70 wedi cychwyn eto mewn perthynas â chaffael a reoleiddir gan Weinidogion Cymru, mae cychwyn Adran 70 gan Lywodraeth y DU yn berthnasol i awdurdodau Cymreig datganoledig lle dyfernir y contract ar ôl 1 Ebrill 2026 o dan drefniant caffael a neilltuir (heb ei ddatganoli) (h.y. fframwaith neu farchnad ddynamig yn Lloegr) gan fod y rhain wedi'u cynnwys o dan reoliadau Llywodraeth y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, anfonwch e-bost at: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru
