Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau i fuddsoddi £60m er mwyn helpu i sicrhau bod ei Chynnig Gofal Plant hynod uchelgeisiol ar gael ym mhob rhan o’r wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyfleusterau’n cael eu datblygu fel rhan o raglen buddsoddi cyfalaf £60 miliwn yn y sector gofal plant.

Mae Gweinidogion wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r 30 awr yn cynnwys 10 awr sylfaenol o ddarpariaeth bresennol y Cyfnod Sylfaen a hyd at 20 awr o ofal plant gyda darparwr cofrestredig. 

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd, a bydd ar gael yn genedlaethol erbyn y flwyddyn nesaf. Mae dros 5,000 o blant cymwys eisoes yn manteisio ar y cynnig. 

Bydd y prosiectau sy’n derbyn cyllid yn canolbwyntio’n bennaf ar helpu i sicrhau bod darpariaeth bresennol y Cyfnod Sylfaen a darpariaeth newydd y Cynnig Gofal Plant ar gael ar yr un safle, lle bynnag y bo’n bosibl. Bydd hyn yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i rieni fanteisio ar ofal cofleidiol.

Bydd y cyllid naill ai’n helpu i sefydlu lleoliadau gofal plant newydd neu’n adnewyddu lleoliadau sy’n bodoli eisoes er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r safon ofynnol ar gyfer lleoliadau sy’n darparu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru. 

Hefyd, mae awdurdodau lleol wedi sicrhau cyllid i’w galluogi i weithredu Cynllun Grantiau Bach yn eu hardal, a fydd yn galluogi darparwyr gofal plant yn y sector preifat a gwirfoddol i gael gafael ar hyd at £10,000 o gyllid cyfalaf i wneud gwaith ar eu safle. 

Meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu neu adnewyddu 115 o gyfleusterau gofal plant newydd ledled Cymru fel rhan o raglen buddsoddi cyfalaf £60 miliwn i gyflwyno ein Cynnig Gofal Plant hynod uchelgeisiol. 

“Bydd ein buddsoddiad yn sicrhau bod y Cynnig Gofal Plant ar gael i rieni ledled Cymru trwy sicrhau bod darpariaeth gofal plant ddigonol ar gael yn yr ardaloedd priodol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu darpariaeth newydd mewn ardaloedd lle mae prinder gwasanaethau gofal plant ar hyn o bryd, yn enwedig ardaloedd gwledig ac ardaloedd difreintiedig. 

“Hefyd, bydd y buddsoddiad yn cefnogi twf a chynaliadwyedd y sector gofal plant ledled Cymru, gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel yn y sector.”

O’r prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo, mae £33 miliwn – bron i 47% o’r grantiau sydd wedi’u dyfarnu – yn cael ei neilltuo ar gyfer lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn helpu i gyflwyno strategaeth ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg:

“Mae ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar fel pwynt mynediad ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan hanfodol o weledigaeth Cymraeg 2050. Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn y sector.

“Bydd hyn yn golygu bod lleoliadau cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn gallu ehangu ystod eu gwasanaethau, a bydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer lleoliadau newydd, gan alluogi mwy o blant i ddechrau dysgu Cymraeg.”

Mae’r prosiectau’n cynnwys:

Y Gogledd 

  • Dros £2.5 miliwn i ddatblygu 7 prosiect yn Ynys Môn, gan gynnwys lleoliad gofal plant yn Ysgol Santes Dwynwen;
  • £2.7 miliwn ar gyfer 4 prosiect yn Sir Ddinbych, gan gynnwys adleoli dau Gylch Meithrin o safleoedd anaddas yn y Rhyl. 

Y Canolbarth a’r Gorllewin

  • Dros £1.8 miliwn i ddatblygu 3 phrosiect yng Ngheredigion, gan gynnwys bron i £800,000 i sicrhau bod lleoliad gofal plant yn rhan o ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Aberaeron.

Y De Orllewin

  • Bron i £3.3 miliwn i ddatblygu 7 prosiect ledled Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys lleoliad gofal plant newydd mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd.

Y De-ddwyrain

  • Bron i £5 miliwn i ddatblygu 10 prosiect yng Nghaerffili, gan gynnwys pedwar lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg; 
  • Dros £1.7 miliwn i ddatblygu 3 phrosiect ym Mro Morgannwg, gan gynnwys lleoliad gofal plant newydd yn Ysgol Gynradd Gladstone.