Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru wedi llongyfarch yr aelodau o staff sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer anrhydeddau ar restr y Flwyddyn Newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd Dr Andrew Goodall eu bod yn gydnabyddiaeth o waith eithriadol yr holl weision sifil yn ystod blwyddyn heriol.

Mae'r enwebiadau'n adlewyrchu'r ymrwymiad i ddiogelu iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus. Y bobl sy'n derbyn anrhydedd yw:

  • Andrea Street OBE, am wasanaethau i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
  • Jo-Anne Daniels OBE, am wasanaethau i Iechyd y Cyhoedd ac Addysg yng Nghymru
  • Felicity Bennee OBE, am Wasanaeth Cyhoeddus
  • Stephen Barry MBE, am wasanaethau i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru:

Llongyfarchiadau gwresog i’r holl staff sydd wedi cael eu henwebu ar restr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Mae’r gwobrau’n destament i’r gwaith caled a’r ymrwymiad ganddyn nhw a’u cydweithwyr eleni. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol a phrysur, ond rwy’n falch bod gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn broffesiynol a gydag ymrwymiad gwirioneddol fel bob amser.