Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n rhaid i weision sifil gydymffurfio â rheolau ynghylch derbyn swyddogaethau a phenodiadau newydd ar ôl gadael y gwasanaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol am naill ai flwyddyn neu ddwy flynedd ar ôl gadael, yn dibynnu ar safle'r unigolyn.

Diben y rheolau yw osgoi:

  • amheuon y gallai penodiad fod yn wobr am weithredoedd a gyflawnwyd gan gyflogai tra'r oedd yn cyflawni ei ddyletswyddau swyddogol 
  • risg y bydd cyflogwr yn cael mantais amhriodol drwy gyflogi cyn-gyflogai sy'n meddu ar wybodaeth am ei gystadleuwyr neu am bolisi y mae'r llywodraeth yn bwriadu ei gyflwyno 
  • risg y bydd cyn-gyflogai yn manteisio'n amhriodol ar fynediad breintiedig at gysylltiadau yn y llywodraeth.

Gellir cymeradwyo ceisiadau i ymgymryd â swyddogaethau a phenodiadau newydd o dan y rheolau yn ddiamod neu gellir eu cymeradwyo gan osod amodau penodol (e.e. nad yw'r cyn-gyflogai i ymgymryd â gweithgareddau penodol gyda'r cyflogwr newydd am gyfnod penodedig).

Mae'n ofynnol ein bod yn cyhoeddi gwybodaeth am y cyngor a'r penderfyniadau a roddwyd i Gyfarwyddwyr a Dirprwy Gyfarwyddwyr, a Chynghorwyr Arbennig o statws cyfatebol, sy'n gwneud cais, pan fyddant yn derbyn neu'n cyhoeddi eu swyddogaeth/penodiad.

Mae gwefan y Pwyllgor Cynhori ar Benodiadau yn darparu gwybodaeth a gyflwynwyd i Brif Weinidog Cymru ac i'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch ceisiadau gan Gyfarwyddwyr Cyffredinol a deiliaid swyddi graddau uwch, a chynghorwyr arbennig o statws cyfatebol.