Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Set Data Isafswm Cleifion Allanol yn cynnwys data ar presenoldebau newydd, cyfanswm y presenoldebau a chleifion allanol na ddaethant ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Mae’r set ddata claf allanol yn cynnwys apwyntiadau meddyg ymgynghorol neu apwyntiadau nyrs annibynnol yn unig, felly nid yw apwyntiadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a telefeddygaeth yn cael eu dal.

Prif bwyntiau

  • Roedd dros 3 miliwn o bresenoldebau cleifion allanol yng Nghymru yn 2018-19 (3,097,636) ac o’r rhain, roedd 961,819 yn bresenoldebau newydd.
  • Mae nifer presenoldebau cleifion allanol yn gyffredinol heb newid dros y 10 blynedd diwethaf. 
  • Mae cyfradd y presenoldebau newydd fesul 1,000 o boblogaeth preswyl wedi cynyddu y flwyddyn yma o 302 fesul 1,000 yn 2017-18 i 302 fesul 1,000 yn 2018-19. 
  • Abertawe Bro Morgannwg oedd y bwrdd iechyd gyda’r cyfradd uchaf o bresenoldebau newydd yn 2018-19. Powys oedd â’r gyfradd isaf.
  • Roedd canran yr holl apwyntiadau claf allanol lle ni fynychodd y claf yr isaf ar gofnod, 0.8 pwynt canran yn is na 2017-18.

Adroddiadau

Set Data Isafswm Cleifion Allanol canlyniadau cryno, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 569 KB

PDF
Saesneg yn unig
569 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.