Gweithgaredd practis cyffredinol: Ebrill 2024 i Mehefin 2024
Gwybodaeth am apwyntiadau mewn practisau cyffredinol gan gynnwys dadansoddi modd, math o ymarferydd ac ymgynghoriad; a gweithgareddau ychwanegol penodol ar gyfer Ebrill 2024 i Mehefin 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024
- Amcangyfrifwyd bod 4.8 miliwn o apwyntiadau wedi'u trefnu mewn practisau cyffredinol, sef cynnydd o 2.2% ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Mynychwyd 94.8% o'r apwyntiadau, sef lleihad o 0.2 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Amcangyfrifwyd bod 78,000 o apwyntiadau wedi'u trefnu bob diwrnod gwaith, sef lleihad o 1.1% ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol ac amcangyfrifwyd bod 74,000 o apwyntiadau wedi'u mynychu bob diwrnod gwaith, sef lleihad o 1.3% ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 65.2% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn rhai wyneb yn wyneb, sef cynnydd o 2.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 33.6% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn rhai o bell, sef lleihad o 2.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 68.2% o'r apwyntiadau a fynychwyd gyda meddyg teulu neu ragnodydd annibynnol, sef cynnydd o 0.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 31.8% o'r apwyntiadau a fynychwyd gyda nyrs, gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd neu aelod arall o staff clinigol, sef lleihad o 0.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 62.9% o'r apwyntiadau a fynychwyd am resymau cronig, rhesymau a gynlluniwyd neu resymau nad oeddent yn acíwt, sef cynnydd o 0.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 37.1% o'r apwyntiadau a fynychwyd am resymau brys neu acíwt, sef lleihad o 0.3 o bwyntiau canran ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
Yn ogystal ag apwyntiadau, cafodd:
- 410,000 o atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau arbenigol eu gwneud a 160,000 o nodiadau ffitrwydd eu cyhoeddi
- 7.0 miliwn o alwadau eu derbyn, sy'n cyfateb i 110,000 bob diwrnod gwaith. Atebwyd chwech allan o ddeg galwad o fewn dwy funud
- 1.8 miliwn o lythyrau neu negeseuon e-bost eu hanfon, 1.3 miliwn o negeseuon testun eu hanfon a'u derbyn, a 1.5 miliwn o geisiadau digidol eu cyflwyno
Nodiadau
Mae'r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddata a dynnwyd o'r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol ar 6 Medi 2024.
Diwygio data
Mae data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024 wedi'u diwygio yn unol â'n polisi diwygiadau cynlluniedig. Roedd newidiadau bach ar lefel Cymru, gyda newidiadau yn amrywio rhwng llai na 0.1% a 0.3% ar gyfer y data ynghylch apwyntiadau a rhwng llai na 0.1% a 2.5% ar gyfer y data ynghylch gweithgareddau ychwanegol dethol.
Bydd y data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2024 a mis Mehefin 2024 yn cael eu diwygio yn y cyhoeddiad nesaf.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099