Gweithgaredd practis cyffredinol: Gorffennaf i Medi 2025
Gwybodaeth am apwyntiadau mewn practisau cyffredinol gan gynnwys dadansoddi modd, math o ymarferydd ac ymgynghoriad; a gweithgareddau ychwanegol penodol ar gyfer Gorffennaf i Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben yr ystadegau hyn yw meintioli nifer y prif weithgareddau a gyflawnir mewn practisau cyffredinol, gan gynnwys apwyntiadau a wnaed ac a fynychwyd, galwadau ffôn a dderbyniwyd, ac atgyfeiriadau ymlaen a wnaed.
Er mwyn cyfrif am wyliau cyhoeddus a gwahaniaethau yn nifer y diwrnodau ym mhob mis, cyflwynir ystadegau misol fesul diwrnod gwaith, yn ogystal â chyfansymiau cyffredinol.
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu cynhyrchu gyda chyfyngiadau hysbys, sy'n cael eu hegluro yn yr adroddiad ansawdd ac fe'u dosberthir yn 'ystadegau swyddogol dan ddatblygiad'.
Ffigur 1: amcangyfrif o nifer cyfartalog yr apwyntiadau fesul diwrnod gwaith bob mis yn ôl statws yr apwyntiad, mis Hydref 2021 i fis Medi 2025
Disgrifiad o ffigur 1: siart linell sy'n dangos bod apwyntiadau a fynychwyd fesul diwrnod gwaith wedi bod ar duedd ar i lawr yn fras dros y tair blynedd diwethaf, tra bod apwyntiadau nas mynychwyd wedi cynyddu ychydig dros yr un cyfnod. Mae cynnydd mawr ym mhob categori apwyntiad ym mis Hydref bob blwyddyn, sy'n cyd-fynd â chyfnod prysuraf y rhaglen frechu rhag y ffliw.
Ffynhonnell: Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Y prif bwyntiau
Yn seiliedig ar weithgarwch rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2025, gyda chymariaethau yn seiliedig ar yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol:
- amcangyfrifwyd bod 4.5 miliwn o apwyntiadau wedi'u trefnu mewn practisau cyffredinol, sy'n cyfateb i 69,000 o apwyntiadau fesul diwrnod gwaith
- gwelwyd gostyngiad o 3.3% yn nifer yr apwyntiadau a drefnwyd
- mynychwyd 92.6% o'r apwyntiadau, sef gostyngiad o 2.1 pwynt canran
- mynychwyd 64,000 o apwyntiadau fesul diwrnod gwaith, sef gostyngiad o 5.5%
- roedd 71.0% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn rhai wyneb yn wyneb, sef cynnydd o 5.2 o bwyntiau canran
- roedd 27.5% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn rhai o bell, sef lleihad o 5.4 o bwyntiau canran
- roedd 1.5% o'r apwyntiadau a fynychwyd yn ymweliad cartref, cynnydd o 0.2 o bwyntiau canran
- roedd 63.1% o'r apwyntiadau a fynychwyd gyda meddyg teulu neu ragnodydd annibynnol, sef lleihad o 3.6 o bwyntiau canran
- roedd 36.9% o'r apwyntiadau a fynychwyd gyda nyrs, gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd neu aelod arall o staff clinigol, sef cynnydd o 3.6 o bwyntiau canran
- roedd 65.6% o'r apwyntiadau a fynychwyd am resymau cronig, rhesymau a gynlluniwyd neu resymau nad oeddent yn acíwt, sef cynnydd o 1.7 o bwyntiau canran
- roedd 34.4% o'r apwyntiadau a fynychwyd am resymau brys neu acíwt, sef lleihad o 1.7 o bwyntiau canran
Yn ogystal ag apwyntiadau, cafodd:
- 420,000 o atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau arbenigol eu gwneud, sef cynnydd o 6.2%
- 170,000 o nodiadau ffitrwydd eu cyhoeddi, sef cynnydd o 10.3%
- 6.0 miliwn o alwadau eu derbyn, sy'n cyfateb i 93,000 bob diwrnod Gwaith, sef lleihad o 6.7%
- atebwyd 59.6% o alwadau o fewn dau funud, sef gostyngiad o 1.7 pwynt canran
- cafodd 1.9 miliwn o lythyrau neu negeseuon e-bost eu hanfon, sef yr un fath â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol
- 2.3 miliwn o negeseuon testun eu hanfon a'u derbyn, sef cynnydd o 27.1%
- 1.6 miliwn o geisiadau digidol eu cyflwyno, sef cynnydd o 8.4%
Nodiadau
Mae'r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddata a dynnwyd o'r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol ar 5 Tachwedd 2025 ac mae'n cynnwys data newydd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2025.
Diwygio data
Mae data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2024 a mis Mawrth 2025 wedi'u diwygio yn unol â'n polisi diwygiadau cynlluniedig. Roedd newidiadau bach ar lefel Cymru, gyda newidiadau yn amrywio rhwng llai na 0.1% a 1.9% ar gyfer y data ynghylch apwyntiadau a rhwng llai na 0.1% a 1.0% ar gyfer y data ynghylch gweithgareddau ychwanegol dethol.
Bydd y data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr 2025 a mis Medi 2025 yn cael eu diwygio yn y cyhoeddiad nesaf.
Manylion cyswllt
Ystadegau Gweithlu'r GIG a Gofal Sylfaenol
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
