Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â heddluoedd i helpu i addysgu modurwyr cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ym mis Medi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Sul, Medi 17, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd ar ffyrdd cyfyngedig.  

Er mwyn paratoi modurwyr ar gyfer y newid sylweddol hwn, mae Llywodraeth Cymru a'r heddlu yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân, Catref | Go Safe (ganbwyll.org),  awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol eraill i addysgu modurwyr.

Ar ochr ffyrdd ledled Cymru, bydd staff y gwasanaeth tân yn gweithio gyda phartneriaid, i rwystro gyrwyr rhag goryrru mewn ardaloedd 20mya a chynnig cyfle iddynt wylio fideo addysgol yn hytrach na wynebu dirwy. 

Mae'r fideo yn rhybuddio am beryglon cyflymderau gormodol ac yn tynnu sylw at fanteision cyflymder arafach. Fe'i cynigir i'r modurwyr hynny nad ydynt yn gyrru'n ormodol dros y terfyn cyflymder.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Leanne Brustad, Heddlu Gwent: 

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i addysgu gyrwyr gymaint â phosibl wrth i'r terfyn cyflymder newydd ddod i rym a helpu i gyflawni holl fanteision y polisi hwn."

Dywedodd Richie Smart, Rheolwr Grŵp: Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

"Mae ein diffoddwyr tân yn gweld yr effeithiau dinistriol y gall gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd adeiledig lle mae pobl a cherbydau'n cymysgu'n agos, eu cael. Rydym felly yn falch o gefnogi ein partneriaid i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd terfynau cyflymder i gadw pawb yn ddiogel."