Neidio i'r prif gynnwy

Helpu i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y sector ynni gwynt ar y môr a'r sector ynni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
RWE workers

RWE yw’r cynhyrchydd ynni mwyaf yng Nghymru, a phrif gynhyrchydd ynni adnewyddadwy'r wlad, gan greu digon o drydan i bweru dros bedair miliwn o gartrefi, tua theirgwaith y cyfanswm yng Nghymru.

Mae wedi bod ar flaen y gad yn chwyldro diwydiannol gwyrdd Cymru, gan berchen ar bortffolio amrywiol o safleoedd gwynt ar y tir, gwynt ar y môr, ynni dŵr a nwy, a’u gweithredu. Mae'n cyflogi 300 o bobl yn uniongyrchol yng Nghymru mewn swyddfeydd pwrpasol ym Maglan, Dolgarrog a Phorthladd Mostyn, yn ogystal ag ar ei safleoedd yn ei orsafoedd pŵer.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae RWE a’i bartneriaid wedi buddsoddi dros £3 biliwn i gyflawni prosiectau yng Nghymru. Mae buddsoddiadau mawr yn cynnwys Gorsaf Ynni Penfro a Gwynt y Môr, sef fferm wynt ar y môr gwerth £2 biliwn.

Yn ystod adeiladu safle Gwynt y Môr, cynhyrchwyd 700 o swyddi, gyda 100 o swyddi sgiliau uchel eraill yn cael eu creu yn yr hirdymor. Buddsoddwyd £250 miliwn arall ar brosiectau gwynt ar y tir yng Ngorllewin Coedwig Brechfa, Coedwig Clocaenog a Mynydd y Gwair. Mae RWE yn rhedeg chwech o orsafoedd ynni dŵr yng Ngogledd Cymru o’i ganolfan yn Nolgarrog.

Y bwriad yw y bydd Awel y Môr – prosiect datblygu ynni gwynt ar y môr newydd RWE oddi ar arfordir Gogledd Cymru (a chwaer brosiect i Gwynt y Môr) – yn weithredol erbyn 2030. Mae ganddo'r potensial i gynhyrchu hyd at 1,100MW o ynni adnewyddadwy glân wrth gynnig cyfleoedd cyflogaeth hirdymor bellach.

Dywed Tom Glover, Cadeirydd Gwlad RWE y DU:

"Mae cam nesaf taith RWE yng Nghymru yn canolbwyntio ar gyflwyno Awel y Môr, un o’r buddsoddiadau seilwaith mwyaf yng Nghymru yn y ddegawd ddiwethaf, ac ar dechnolegau arloesol fel hydrogen a phrosiectau ynni gwynt sy'n arnofio ar y môr,

"Ynghyd â Phorthladdoedd Cysylltiedig Prydain a Phorthladd Aberdaugleddau, rydym yn ymchwilio i botensial enfawr prosiectau ynni gwynt sy'n arnofio ar y môr yn y Môr Celtaidd, a fydd, yn ein barn ni, yn darparu nid yn unig ffynhonnell ynni adnewyddadwy a chynaliadwy ond yn amddiffyn ac yn creu swyddi a gyrfaoedd medrus.

"Ac rydym hefyd yn gweithio gyda Tata Steel i nodi’r cydrannau dur y gellid eu cyflenwi i dechnolegau gwynt sy'n arnofio ar y môr, felly mae’n ddull cydgysylltiedig iawn er budd Cymru."

Yn ogystal, mae RWE yn dod ag arbenigedd datgarboneiddio’r cwmni yng Nghanolfan Sero Net Penfro ynghyd yn ei ymgais i ddod yn garbon niwtral:

"Bydd Cymru ar flaen y gad o ran pontio i ynni gwyrdd wrth i ni geisio trawsnewid Gorsaf Ynni Penfro, sy’n cael ei thanio â nwy, yn Ganolfan Sero Net Penfro,” ychwanega Tom. “Rydym yn archwilio cynhyrchu hydrogen gwyrdd, dal a storio carbon, ac ynni gwynt sy'n arnofio ar y môr fel y bo'r angen."

Disgwylir y bydd y Ganolfan Sero Net yn datgloi cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi, gan helpu i gefnogi diwydiannau, busnesau a swyddi presennol a newydd.

Wrth gwrs, wrth i ynni gwyrdd esblygu, felly hefyd mae sgiliau a swyddi. Ac mae calon rhaglen hyfforddiant ar y môr RWE wedi’i lleoli yng Ngholeg Llandrillo ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru:

"Ers 2012, mae ein rhaglen Prentisiaeth Ynni Gwynt ar y Môr wedi’i lleoli yng Ngholeg Llandrillo. Rydym wedi hyfforddi dros 40 o brentisiaid hyd yn hyn a bydd mwy yn cael cynnig hyfforddiant yn y blynyddoedd i ddod. Ar ôl i’r prentisiaid gwblhau dwy neu dair blynedd o hyfforddiant yn y coleg ac ar y môr yn llwyddiannus, gallant roi eu dysgu ar waith ar dyrbinau gwynt ar y môr, gan weithio gyda darpar gyflogwyr a phrosiectau RWE yng Ngogledd Cymru a thu hwnt."

Alwyn Jones yw Rheolwr Ardal y Rhaglen Peirianneg ac Ynni Adnewyddadwy yng Ngholeg Llandrillo:

"Gwnaethom sefydlu rhaglen hyfforddi RWE yng Ngholeg Llandrillo dros ddeng mlynedd yn ôl ac mae’n parhau i esblygu. Yn ogystal â darparu ar gyfer prentisiaid tyrbinau gwynt ar y tir ac ar y môr, rydym bellach yn hyfforddi prentisiaid atgyweirio llafnau ac ynni dŵr.

"Heb os, bydd y rhaglen yn datblygu ymhellach gyda gwaith eisoes yn dechrau ar Ganolfan Ragoriaeth mewn Peirianneg gwerth £14 miliwn yn Llandrillo-yn-Rhos. Ynghyd ag RWE, rydym yn adeiladu canolfan tyrbinau gwynt bwrpasol."

Yn ogystal, mae Coleg Llandrillo yn gweithio gydag RWE i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y sector gwynt ar y môr a'r sector ynni.

"Rydym yn gweithio gydag RWE fel y gallwn ddarparu addysg uwch i dechnegwyr trwy ddysgu o bell. Bydd yn golygu y gall pobl ganol oed yn dychwelyd i'r coleg i ddysgu sgiliau newydd, gan ennill cymwysterau ar lefelau Tystysgrif Genedlaethol Uwch a Diploma Cenedlaethol Uwch, a fydd yn hanfodol ar gyfer Cymru wyrddach."

Mae Fiona McColgan yn Dechnegydd Tyrbinau Gwynt Ar y Môr gydag RWE ar hyn o bryd, ar ôl symud o Brighton i Ogledd Cymru:

"Dechreuais ar y brentisiaeth yn ôl ym mis Awst 2021. Rwyf wedi canolbwyntio'n frwd ers amser maith ar gynaliadwyedd a bu gennyf ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant ynni adnewyddadwy ers fy nyddiau yn yr ysgol a'r brifysgol.

"Mae prentisiaid technegydd tyrbinau gwynt RWE eraill o bob rhan o’r DU – gan gynnwys Cumbria, Sussex, Swydd Lincoln, Suffolk, Northumberland a Gogledd Cymru ei hun – wedi cael eu denu i’r ardal ar gyfer y brentisiaeth. Mae'n golygu astudio yng Ngholeg Llandrillo yn ystod y tymor am ddwy flynedd a gweithio ar safleoedd RWE yn ystod cyfnodau y tu allan i'r tymor hefyd. Rydym yn dysgu theori peirianneg fecanyddol a thrydanol, ac arferion iechyd a diogelwch, yn ogystal â chynnal a chadw a gweithrediad tyrbinau gwynt, gyda hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth ac mewn gweithdai."

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau tyrbinau gwynt yng Ngholeg Llandrillo, ffoniwch 01492 542 338 neu anfonwch e-bost at ymholiadaucyffredinol@gllm.ac.uk.

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i 'Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth' neu ffoniwch 03000 6 03000.

Gallwch ein 'hoffi' ar Facebook a’n dilyn ar Twitter drwy glicio ar y dolenni.