Gweithio o bell (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2024 i Fawrth 2025
Gwybodaeth o Arolwg Cenedlaethol Cymru am nodweddion pobl sy'n fwy tebygol o weithio o bell.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r canlyniadau o'r cwestiynau am weithio o bell a gynhwyswyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ystod 2024-25. Roedd yr arolwg yn cynnwys tua 6,000 o bobl 16 oed a hŷn. Cafodd ei gynnal mewn dwy ran: adran o dan arweiniad cyfwelydd (naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb) ac yna adran hunanlenwi (ar-lein neu, os oedd yn gyfweliad wyneb yn wyneb, ar gyfrifiadur llechen y cyfwelydd). Gofynnwyd y cwestiynau am weithio o bell yn yr adran o dan arweiniad cyfwelydd.
Cafwyd problemau gwaith maes yn ystod 2024-25 gan arwain at gyfraddau ymateb is na'r blynyddoedd blaenorol, meintiau sampl llai, a rhai gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl (gweler Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg). Oherwydd y meintiau sampl llai, mae'r cyfyngau hyder mewn cysylltiad ag amcangyfrifon yn ehangach nag yn y blynyddoedd blaenorol, yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai.
Er hynny, mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae'r arolwg yn parhau i ddarparu amcangyfrifon rhesymol, yn enwedig pan gaiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Mae'r maint sampl llai yn golygu nad yw rhai dadansoddiadau manwl o'r data ar weithio o bell yn bosibl yn y datganiad hwn.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau o'r cwestiynau gweithio o bell a gynhwyswyd yn yr Arolwg Cenedlaethol Cymru rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, sydd wedi'i fyrhau i 2024-25 yn yr adroddiad hwn.
Y prif ganfyddiadau
Gweithiodd mwy o bobl o bell yn 2024-25 nag yn 2022-23. Yn 2024-25, fe wnaeth 42% o bobl mewn gwaith weithio o bell o leiaf rywfaint o'r amser, o'i gymharu â 34% yn 2022-23.
Er bod mwy o bobl yn gweithio o bell, maent yn gwneud hynny am lai o oriau yr wythnos. Dywedodd 35% o bobl a wnaeth weithio rhywfaint neu'r cyfan o'u horiau o bell yn 2024-25 eu bod wedi gwneud hynny am fwy na 32 awr yr wythnos, o'i gymharu â 61% yn 2022-23. Yn 2024-25, roedd 17% yn gweithio 8 awr neu lai o bell bob wythnos, o'i gymharu ag 8% yn 2022-23.
Roedd pobl â chymwysterau uwch yn fwy tebygol o weithio o bell: roedd 51% o'r rhai â chymwysterau ar lefel gradd neu uwch yn gweithio o bell, o'i gymharu â 16% o'r rhai â chymwysterau isel neu ddim cymwysterau o gwbl.
Roedd pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn llai tebygol o weithio o bell: roedd 19% o'r grŵp hwn yn gweithio o bell, o'i gymharu â 46% o'r rhai mewn eiddo i berchen-feddianwyr a 36% mewn cartrefi rhent preifat.
O'r rhai nad ydynt fel arfer yn gweithio o bell, dywedodd 10% nad ydynt am weithio o bell a dywedodd 87% nad ydynt yn gallu gwneud hynny.
Yn gyffredinol, dywedodd ychydig dros hanner (52%) o bobl na allent weithio o bell yn 2024-25.
Lefelau cyffredinol gweithio o bell
Mae cyfran y bobl yng Nghymru sy'n gweithio o bell (42% yn Arolwg Cenedlaethol 2024-25) yn unol â lefelau gweithio o bell a ganfuwyd yn yr Arolwg Barn a Ffordd o Fyw Ledled y DU (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)) (41% ym mis Ebrill 2025). Bu cynnydd mewn lefelau gweithio o bell: ffigur Arolwg Cenedlaethol 2022-23 oedd 34% (a ffigur Arolwg Barn Ebrill 2023 ar gyfer y DU oedd 37%).
Oriau a weithiwyd o bell
Ffigur 1: Dosbarthiad nifer yr oriau a weithiwyd o bell mewn wythnos yn 2022-23 a 2024-25
Disgrifiad o ffigur 1: Yn 2024-25, dywedodd 35% o bobl sy'n gweithio o bell eu bod yn gwneud hynny am 33 awr neu fwy yr wythnos, o'i gymharu â 61% yn 2022-23. Roedd 17% yn gweithio 8 awr neu lai o bell bob wythnos, o'i gymharu ag 8% yn 2022-23. Mae hyn yn awgrymu, er bod mwy o bobl yn gweithio o bell, eu bod gwneud hynny am lai o oriau.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23 a 2024-25
Yn yr Arolwg Cenedlaethol yn 2024-25, o'r rhai nad ydynt fel arfer yn gweithio o bell, dywedodd 10% nad ydynt am weithio o bell a dywedodd 87% nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Dywedodd y 3% sy'n weddill nad ydynt am weithio o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny.
Ffactorau sy'n gysylltiedig â gweithio o bell
Archwiliwyd y berthynas rhwng gweithio o bell a gwahanol ffactorau gan ddefnyddio technegau ystadegol (gweler Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg). Wrth ystyried ffactorau eraill, roedd y canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol â gweithio o bell:
- Meddu ar lefelau uwch o gymwysterau
- Bod yn berchen-feddiannydd, neu beidio â byw mewn tai cymdeithasol
- Byw yn y De-ddwyrain
- Peidio â bod yn grefyddol
- Cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos
- Bod yn 25 oed neu'n hŷn
- Bod yn llai tebygol o deimlo bod bywyd yn werth chweil
Yn ogystal, canfuwyd bod y pellter a deithiwyd i'r gwaith yn gysylltiedig yn 2022-23, gyda phobl sy'n teithio mwy na 15 milltir i'r gwaith yn fwy tebygol o weithio o bell (23%, o'i gymharu ag 11% o bobl a oedd yn teithio 3 milltir neu lai). Fodd bynnag, ni ofynnwyd am hyn yn 2024-25.
Roedd cyfeiriadedd rhywiol hefyd yn gysylltiedig â gweithio o bell yn 2022-23 (ond nid yn 2024-25), gyda phobl hoyw, lesbiaidd, ddeurywiol neu sydd â chyfeiriadedd rhywiol arall yn fwy tebygol o weithio o bell na phobl heterorywiol. Efallai mai'r rheswm na chanfuwyd bod cyfeiriadedd rhywiol yn gysylltiedig â gweithio o bell yn 2024-25 yw oherwydd y maint sampl llai. Roedd cysylltiad hefyd â'r sector gwaith yn 2022-23 ond nid yn 2024-25.
Er bod crefydd a chymryd rhan mewn chwaraeon yn gysylltiedig â gweithio o bell yn 2024-25, ni chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig yn 2022-23.
Ni chanfuwyd bod rhyw, salwch hirdymor cyfyngol, salwch meddwl, ethnigrwydd, gwledigrwydd, y math o aelwyd, y gallu i siarad Cymraeg, amddifadedd materol, na statws priodasol yn gysylltiedig â gweithio o bell yn 2022-23 na 2024-25.
Mae gweddill y datganiad hwn wedi'i strwythuro'n bennaf o amgylch ffactorau y canfuwyd eu bod yn gysylltiedig â gweithio o bell yn 2024-25.
Cymhwyster uchaf
Ffigur 2: Canran y bobl a weithiodd o bell yn 2022-23 a 2024-25, yn ôl eu cymhwyster uchaf
Disgrifiad o Ffigur 2: Yn 2024-25, roedd 51% o'r rhai sydd â chymwysterau addysg uwch neu gymwysterau lefel 4 neu uwch yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) yn gweithio o bell. Roedd hyn yn uwch nag yn 2022-23 (43%). Arhosodd y gyfran ar gyfer pobl â lefel is o gymhwyster neu ddim cymhwyster o gwbl yr un fath (16%). Gweler yr adran ar Ansawdd am ragor o wybodaeth am lefelau cymwysterau.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23 a 2024-25
Deiliadaeth
Ffigur 3: Canran y bobl a weithiodd o bell yn 2022-23 a 2024-25, yn ôl deiliadaeth
Disgrifiad o ffigur 3: Roedd pobl mewn tai cymdeithasol yn llai tebygol o weithio o bell na rhentwyr neu berchen-feddianwyr, ac roedd perchen-feddianwyr yn fwy tebygol o weithio o bell. Roedd 19% o bobl mewn tai cymdeithasol yn gweithio o bell, o'i gymharu â 36% o rentwyr preifat a 46% o berchen-feddianwyr. Roedd y patrwm yn debyg yn 2022-23. Cynyddodd cyfran y perchen-feddianwyr sy'n gweithio o bell o 37% yn 2022-23 i 46% yn 2024-25.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23 a 2024-25
Rhanbarth
Ffigur 4: Canran y bobl a weithiodd o bell yn 2022-23 a 2024-25, yn ôl rhanbarth
Disgrifiad o ffigur 4: Mae gwahaniaethau yng nghanran y bobl sy'n gweithio o bell yn ôl rhanbarth yn 2024-25, gan amrywio o 34% yn y Gogledd-orllewin i 46% yn y De-ddwyrain. Roedd cyfran y bobl sy'n gweithio o bell yn uwch yn y De-ddwyrain nag yn y ddau ranbarth yn y Gogledd. Roedd y patrwm yn debyg yn 2022-23; a bu cynnydd mewn lefelau gweithio o bell yn y De-ddwyrain rhwng 2022-23 a 2024-25.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23 a 2024-25
Crefydd
Ar ôl ystyried ffactorau eraill, roedd cysylltiad annibynnol rhwng peidio â bod yn grefyddol a gweithio o bell. Yn 2024-25, roedd 44% o bobl a ddywedodd nad ydynt yn grefyddol yn gweithio o bell, o'i gymharu â 40% o bobl a ddywedodd eu bod yn grefyddol. Roedd y gwahaniaeth yn debyg yn 2022-23.
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Roedd pobl a ddywedodd eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos yn fwy tebygol o weithio o bell (46%) na'r rhai a oedd yn gwneud llai o chwaraeon (41% o'r grŵp hwn a oedd yn gweithio o bell).
Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gyson â chanlyniadau 2022-23, lle canfuwyd y patrwm arall: roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos yn llai tebygol o weithio o bell (31%) na'r rhai nad oeddent yn cymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon (35% a oedd yn gweithio o bell).
Mae ffigurau o Arolwg Defnydd Amser y SYG ym mis Mawrth 2024 yn awgrymu bod pobl sy'n gweithio o bell yn y DU yn treulio mwy o amser yn cymryd rhan mewn chwaraeon, a fyddai'n cefnogi'r sefyllfa yn arolwg 2024-25. Byddai ymchwil bellach yn ddefnyddiol a bydd cwestiynau am gyfranogiad mewn chwaraeon hefyd yn cael eu cynnwys yn arolwg 2026-27, gyda maint sampl mwy, a fydd yn cefnogi dadansoddiad manylach.
Oedran
Roedd pobl o dan 25 oed yn llai tebygol o weithio o bell na'r rhai 25 oed neu hŷn.
Ffigur 5: Canran y bobl a weithiodd o bell yn 2022-23 a 2024-25, yn ôl oedran
Disgrifiad o ffigur 5: Yn 2024-25, dywedodd 22% o'r rhai 16-24 oed eu bod yn gweithio o bell o'i gymharu â 44% yn y grŵp oedran 25-44, 43% yn y grŵp oedran 45-64 a 40% yn y grŵp oedran 65-74. Roedd y patrwm yn debyg yn 2022-23, er bod lefelau gweithio o bell yn is ar gyfer pobl 25-64 oed nag yr oeddent yn 2024-25.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23 a 2024-25
[Nodyn 1] Mae maint y sampl ar gyfer y rhai 16-24 oed sy'n gweithio o bell yn llai na 30.
[Nodyn 2] Nid yw'r grŵp oedran 75 oed a hŷn yn cael ei ddangos oherwydd mai dim ond nifer bach o achosion a geir ym mhob blwyddyn.
Teimlo bod bywyd yn werth chweil
Mewn cymhariaeth syml, nid oedd pobl a oedd yn teimlo bod bywyd yn werth chweil yn fwy tebygol o weithio o bell. Fodd bynnag, unwaith yr ystyriwyd ffactorau eraill (fel oedran, addysg ac ati), roedd cysylltiad amlwg rhwng teimlo bod bywyd yn werth chweil a pheidio â gweithio o bell. Roedd hyn hefyd yn wir yn 2022-23.
Ffactorau eraill
Roedd sawl ffactor hefyd a ddangosodd wahaniaethau dim ond pan na chafodd ffactorau eraill eu hystyried. Mae'r gwahaniaethau hyn yn cael eu hegluro'n well gan y ffactorau a restrir uchod, ond mae'n werth trafod rhai ohonynt yn rhinwedd eu hunain.
Amddifadedd materol
Mae bod mewn amddifadedd materol yn golygu diffyg hanfodion fel cael gwyliau, gosod offer cartref newydd neu gadw eu llety yn gynnes. Yn 2024-25, roedd pobl mewn amddifadedd materol yn llai tebygol o weithio o bell (31%) o'i gymharu â phobl nad ydynt mewn amddifadedd materol (44%). Yn 2022-23, canfuwyd yr un patrwm ond roedd y cyfrannau'n is: 21% ar gyfer pobl mewn amddifadedd materol a 36% ar gyfer pobl nad ydynt mewn amddifadedd materol.
Fodd bynnag, unwaith y caiff ffactorau eraill eu hystyried, nid yw amddifadedd materol yn gysylltiedig â thebygolrwydd o weithio o bell. Mae hyn yn awgrymu bod y gwahaniaethau yn y paragraff blaenorol yn cael eu hegluro'n well gan ffactorau cysylltiedig eraill, megis bod yn fwy addysgedig neu fod yn berchen-feddiannydd.
Mae'r cynnydd mawr mewn arferion gweithio o bell gan y rhai mewn amddifadedd materol rhwng 2022-23 a 2024-25 o ddiddordeb. Byddai angen cynnal ymchwil bellach i ddeall y gwahaniaethau. Bydd cwestiynau am weithio o bell yn cael eu cynnwys yn arolwg 2026-27, a fydd yn cynnwys maint sampl mwy ac yn cefnogi archwiliad mwy manwl.
Sector gwaith
Yn 2024-25, roedd pobl a oedd yn gweithio i fudiadau elusennol neu wirfoddol yn fwy tebygol o weithio o bell (58%) na'r rhai yn y sector preifat (38%). Nid yw lefelau gweithio o bell yn y sector cyhoeddus (44%) yn wahanol iawn i'r sectorau eraill.
Y cyd-destun polisi
Mae strategaeth Gweithio'n Glyfar Llywodraeth Cymru yn gosod uchelgais i 30% o'r gweithlu weithio o bell yn rheolaidd. Mae gweithio o bell yn duedd esblygol, wedi'i chyflymu gan bandemig Covid-19, lle mae cyflogwyr yn parhau i fireinio eu dulliau a'u disgwyliadau, a gweithwyr yn addasu eu harferion ac yn datblygu sgiliau newydd. Nod y cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yw cryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar y patrymau newidiol hyn a'u heffeithiau ehangach.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024-25 yn arolwg hapsampl, graddfa fawr a gynhaliwyd dros y ffôn, a oedd yn cynnwys pobl 16 oed a hŷn ledled Cymru.
Methodoleg
Dewiswyd cyfeiriadau ar hap, ac anfonwyd gwahoddiadau drwy'r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellid darparu rhif ffôn drwy borth ar-lein neu linell ymholiadau dros y ffôn. Lle na chafodd rhif ffôn ei ddarparu, cynhaliwyd teleparu â chronfeydd data o rifau ffôn sydd ar gael i weld a ellid dod o hyd i un ar gyfer y cyfeiriad.
Yna, fe wnaeth y cyfwelydd alw'r rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad, darganfod faint o oedolion a oedd yn byw yno, a dewis un ar hap (y person a oedd â'r pen-blwydd nesaf) i gymryd rhan yn yr arolwg. Cafodd y person a ddewiswyd ei gyf-weld dros y ffôn. Ar ôl cwblhau'r adran ffôn, gofynnwyd iddynt gwblhau adran ar-lein ac anfonwyd manylion atynt.
Os na chafwyd rhif ar gyfer y cyfeiriad, dewiswyd 46% o'r achosion hyn ar hap ac fe wnaeth y cyfwelydd ymweld â'r cyfeiriad i ddewis ymatebydd. Yna, cynhaliwyd cyfweliad wyneb yn wyneb gyda nhw yn y cartref neu (os oedd yn well ganddynt gyfweliad dros y ffôn) casglwyd rhif ffôn ar eu cyfer.
Roedd yr arolwg yn para tua 40 i 45 munud ar gyfartaledd ac yn ymdrin ag ystod o bynciau. Cynigwyd taleb £15 i'r ymatebwyr i ddiolch iddynt am gymryd rhan. Roedd maint y sampl a gyflawnwyd bob mis yn rhyw 500 o bobl ar gyfartaledd, a'r gyfradd ymateb oedd 18.7% o'r rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan.
Pwysoli'r arolwg
Wrth gymharu'r sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd â sampl 2022-23 heb ei phwysoli a gyflawnwyd, mae gan sampl 2024-25 rai gwahaniaethau megis: mwy o siaradwyr Cymraeg; llai o bobl 25 i 54 oed; mwy o bobl 75 oed a hŷn; mwy o bobl â chymwysterau lefel uwch; llai o bobl heb unrhyw gymwysterau; llai o bobl sy'n gweithio; a mwy o bobl mewn ardaloedd gwledig. O ran y math o aelwyd, mae mwy o aelwydydd un person yn sampl 2024-25 a llai o gyplau (â phlant neu heb blant). Mae llai o bobl yn yr ardaloedd o incwm a chyflogaeth isaf, a mwy o bobl mewn ardaloedd lle y mae gan bobl lefelau uwch o gymwysterau a sgiliau. Mae lledaeniad llai cyfartal o gyfweliadau ar draws y flwyddyn hefyd (er enghraifft, llai yn gymesur ym mis Chwefror a mis Mawrth) o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.
Defnyddir pwysoliadau'r arolwg i ddod â'r sampl yn agosach at y boblogaeth o ran oedran, rhyw, a maint yr awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o'r targed yn nifer y cyfweliadau ym mhob bwrdd iechyd ym mhob chwarter. Mae'r pwysoliadau'n lleihau ond ni fyddant yn dileu effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol ac â'r boblogaeth gyffredinol. Fel y nodwyd uchod, dylid cymryd gofal felly wrth gymharu'r canlyniadau â'r blynyddoedd blaenorol, a dylid archwilio unrhyw wahaniaethau yng nghyd-destun ffynonellau eraill.
Dadansoddiad ystadegol
Mae'r datganiad hwn yn defnyddio dadansoddiad atchweliad i ganiatáu inni edrych ar y berthynas â ffactor penodol (gweithio o bell), gan gadw pethau eraill yn gyson (y cyfeirir ato weithiau fel "rheoli ar gyfer ffactorau eraill"). Fodd bynnag, nid yw'n golygu bod y ffactorau hyn yn achosi gweithio o bell, nac i'r gwrthwyneb.
Pan fo testun y datganiad hwn yn nodi gwahaniaeth rhwng dau ganlyniad arolwg, rydym wedi gwirio i sicrhau nad yw'r cyfyngau hyder (a elwir weithiau'n "ffin cyfeiliornad") ar gyfer y ddau ganlyniad yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol, h.y. bod siawns o lai na 5% neu 1 o bob 20 fod y canlyniadau yn deillio o hynodrwydd yn sampl yr arolwg yn hytrach nag yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol yn y boblogaeth ehangach. Pan na nodir gwahaniaeth, mae'r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd.
Mae holiadur yr arolwg ar gael ar ein tudalennau gwe.
Mae siartiau a thablau manwl o'r canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu’r data a’r fethodoleg, gweler ein Hadroddiad ansawdd a'n Hadroddiad technegol.
Termau a diffiniadau
Mae cymwysterau uchaf yr ymatebwyr wedi'u codio yn ôl lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC): lefel 1 yw'r lefel ar gyfer y cymwysterau isaf ac mae lefel 8 yn cyfateb i radd doethuriaeth neu gymhwyster cyfwerth. At ddibenion adrodd, mae ymatebwyr yn cael eu grwpio'n 5 categori, fel a ganlyn.
Lefelau 4 i 8 FfCC
Addysg uwch (Lefel 4+)
Lefel 3 FfCC
Safon uwch a chyfwerth (Lefel 3)
Lefel 2 FfCC
TGAU graddau A i C a chyfwerth (Lefel 2)
Is na Lefel 2 FfCC
TGAU is na gradd C (is na Lefel 2)
Dim cymwysterau
Dim cymwysterau
Mae rhagor o wybodaeth am y termau a ddefnyddir yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael yn ein Hadroddiad termau a diffiniadau.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Caiff ein hymarfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y swyddfa sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyn yn dangos y safonau disgwyliedig mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.
Cyhoeddir ystadegau Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn modd hygyrch a threfnus, gyda rhag-gyhoeddiad ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae'r holl ddatganiadau ar gael i'w lawrlwytho am ddim.
Mae'r holl allbynnau'n cadw at y Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ar dudalennau gwe'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu creu gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael.
Ansawdd
Fel y nodwyd uchod, mae maint y sampl a gyflawnwyd ar gyfer Arolwg Cenedlaethol 2024-25 (6,000 o ymatebwyr) yn llai nag a gynlluniwyd yn wreiddiol. Mae maint y sampl yn llai am i'r contractwr ddod ar draws problemau gwaith maes gan gynnwys cyfraddau ymateb is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae newidiadau hefyd yng nghyfansoddiad y sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd o'i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.
Felly, ym mis Gorffennaf 2025, gofynnwyd i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau atal dros dro ein statws ystadegau swyddogol achrededig ar gyfer y datganiad cyntaf hwn ac ar gyfer allbynnau eraill yn seiliedig ar ddata 2024-25 ac fe roddwyd ataliad dros dro inni. Mae'r ataliad dros dro yn adlewyrchu'r ffaith na fydd allbynnau 2024-25 yn gyffredinol yn darparu canlyniadau digon manwl gywir ar gyfer ardaloedd daearyddol bach ac is-grwpiau bach eraill, ac y dylid cymryd gofal wrth gymharu rhai canlyniadau 2024-25 â'r rhai o'r blynyddoedd blaenorol. Mae'r holl allbynnau a seilir ar ddata 2024-25 wedi'u nodi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad.
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o amcangyfrifon i Gymru, yn enwedig os cânt eu defnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Er hynny, dylai defnyddwyr nodi'r cyfyngau hyder ehangach yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai.
Mae'r holl gamau sydd ynghlwm wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr proffesiynol ac mae'r ystadegau yn cael eu cynhyrchu heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Sicrhawyd ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.
Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion y System Ystadegol Ewropeaidd o ran ansawdd allbynnau ystadegol.
Mae'r gwaith sefydlu ar gyfer dyluniad arolwg ar-lein newydd yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y prif waith maes yn dechrau ym mis Mawrth 2026, ac fe ddisgwylir y canlyniadau cyntaf yn haf 2027. Un o fanteision allweddol y dull newydd yw y bydd yn bosibl darparu meintiau sampl llawer mwy, ac felly amcangyfrifon llawer mwy manwl gywir ar gyfer is-grwpiau bach. Ar ôl i'r prif waith maes ddechrau o dan y dyluniad newydd yn 2026-27, byddwn yn gofyn bod bathodynnau ystadegau swyddogol achrededig yn cael eu hadfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar gyfer allbynnau arolygon o 2026-27 ymlaen.
Gwerth
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
- darparu cyngor i'r Gweinidogion; a
- llywio ystod eang o benderfyniadau polisi.
Mae'r sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad hwn wedi'u datblygu i geisio gwneud yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr.
Mae croeso ichi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nid oes dangosydd cenedlaethol penodol ar weithio o bell, fodd bynnag, gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif i gefnogi'r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol. Er enghraifft, gallai'r wybodaeth am weithio o bell effeithio ar y dangosyddion canlynol:- canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, canran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol a chanran y bobl mewn cyflogaeth.

