Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud y gweithle yn fwy diogel i bawb

Gwybod eich hawliau a’ch cyfrifoldebau

Fel gweithiwr neu gyflogwr dylech fod yn ymwybodol o beth yw’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau yn y gwaith.

Fel gweithiwr, dylech deimlo’ch bod yn gallu codi pryderon trwy’r sianelau cywir.

Fel cyflogwr, dylech gael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei angen arnoch i weithredu o fewn y gyfraith a chefnogi eich gweithlu.

Bydd llawer o sefydliadau yn gallu eich helpu i ddeall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch.

Wrth gydweithio, gallwn sicrhau bod ein gweithleoedd yn ddiogel.

Cymorth ichi fel weithiwr

Os ydych yn poeni am unrhyw glefyd trosglwyddadwy (gan gynnwys ffliw, coronafeirws neu norofeirws) neu unrhyw bryderon eraill ynghylch iechyd a lles yn y gwaith a’ch bod eisiau dysgu mwy am eich hawliau iechyd a diogelwch, gall y sefydliadau hyn helpu.

Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am yr hyn y dylech ei ddisgwyl gan eich cyflogwr:

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a’ch awdurdod lleol

Mae deddfwriaeth iechyd a diogelwch yng Nghymru yn cael ei gweithredu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu un o’r 22 Awdurdod Lleol, yn ddibynnol ar y prif weithgaredd a gynhelir mewn unrhyw un neu ragor o fangreoedd penodol. I ddod o hyd i’r un sydd angen i chi gysylltu ag ef, gweler y rhestr o awdurdodau gorfodi.

Os oes gennych bryderon am iechyd a diogelwch yn y gwaith neu os ydych yn gweld rhywbeth mewn gweithle sydd, yn eich tyb chi, yn torri cyfraith iechyd a diogelwch ac yn debygol o achosi niwed difrifol, gallwch roi gwybod amdano. Cyn i chi gysylltu, efallai y bydd modd unioni rhai problemau drwy siarad â'r person sy'n gyfrifol, eich cyflogwr neu eich undeb neu gynrychiolydd gweithwyr.

Os mai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sydd ei angen arnoch chi, y ffordd gyflymaf i gysylltu â nhw yw defnyddio’r ffurflen ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen, gallwch ffonio 0300 003 1647.

Darllenwch ragor o gyngor gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar iechyd a diogelwch yn y gwaith a gwybodaeth ar gynnal a diweddaru asesiadau risg a’r canllawiau ar y gofyniad bod gweithwyr yn rhan o’r broses.

 

TUC Cymru

Mae eich undeb llafur yno i helpu os ydych yn poeni am iechyd a diogelwch yn y gwaith. Siaradwch â nhw os oes gennych unrhyw bryderon, a byddant yn eich cynghori ar sut y gellir mynd i'r afael â nhw a beth yw eich hawliau.

Os nad ydych yn aelod o undeb llafur ar hyn o bryd ac nad ydych yn siŵr pa undeb y dylech ymuno ag ef, bydd adnodd canfod undeb y Gyngres Undebau Llafur (TUC) yn eich helpu i ddewis yr un cywir. Y ffordd orau o sicrhau diogelwch gweithwyr yw cael cynrychiolydd iechyd a diogelwch o’r  undebau ym mhob gweithle.

Mae gan weithleoedd sydd â chynrychiolwyr iechyd a diogelwch o’r undebau a phwyllgorau diogelwch ar y cyd hanner cyfradd anafiadau difrifol y gweithleoedd hynny sydd heb gynrychiolydd o’r fath. Mae gan gynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch yr undebau hawliau cyfreithiol hefyd i gyflawni rhai swyddogaethau yn y gweithle, fel codi pryder am ddiogelwch ar ran cydweithwyr gyda'u cyflogwr. Dysgwch ragor am gynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch yr undebau a sut i ddod yn un ar wefan y TUC.

Darllenwch ragor o gyngor gan TUC Cymru ar Iechyd a Diogelwch yn y gweithle.

Cymorth ichi fel cyflogwr

Llywodraeth Cymru

Mae gan Llywodraeth Cymru wybodaeth ar sut i gadw’ch gweithlu’n ddiogel:

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a’ch awdurdod lleol

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth iechyd a diogelwch yng Nghymru. Gyda’i gilydd, maent yn sicrhau bod deiliaid y ddyletswydd yn rheoli iechyd a diogelwch ei gweithlu a’r rheini y mae eu gwaith yn effeithio arnynt.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am orfodi gweithdrefnau iechyd a diogelwch mewn rhai mathau o weithleoedd, ac mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi’r gweithdrefnau hynny mewn gweithleoedd eraill. I ddod o hyd i’r un sydd angen i chi gysylltu ag ef, gweler y rhestr o awdurdodau gorfodi.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol yn rhoi cymorth rhagweithiol i fusnesau wrth iddynt reoli risgiau iechyd a diogelwch, gan gynnwys darparu cyngor canllawiau a chymorth. Gallwch ddod o hyd i’r hyn y dylid ei wneud i gadw’ch gweithle’n iach ac yn ddiogel yn ôl pwnc neu ddiwydiant.

Darllenwch ragor o gyngor gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar iechyd a diogelwch yn y gwaith a  gwybodaeth ar gynnal a diweddaru asesiadau risg a’r canllawiau ar y gofyniad bod gweithwyr yn rhan o’r broses.

 

Cydffederasiwn Diwydiant Prydain

Fel llais busnes yng Nghymru, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor ac adnoddau penodol i helpu busnesau o bob maint a sector i reoli a deall eu cyfrifoldebau yn well wrth ddiogelu iechyd a diogelwch staff a chwsmeriaid

Darllennwch ragor o gyngor gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain ar faterion iechyd a diogelwch.

 

Chambers Wales

Mae Chambers Wales yn darparu cymorth i fusnesau sydd ei angen, yn rhoi gwybod iddynt am atebion ac yn eu cysylltu â’r atebion hynny i’w helpu drwy’r heriau tymor byr a hirdymor sydd ynghlwm â gweithredu mewn hinsawdd economaidd heriol.  

Mae’r tîm aelodaeth pwrpasol yn cynnig atebion sy’n cael eu teilwra i’ch busnes, a gallwch gael gafael ar adnoddau gan Chambers Wales drwy fynd ar y wefan.

Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)

Gall aelodau’r Ffederasiwn Busnesau Bach gael mynediad at gymorth a chyngor cyfreithiol rhad ac am ddim sy’n cynnwys cymorth ar sut i sicrhau cydymffurfedd o ran iechyd a diogelwch.

Gall perchnogion busnes gael mynediad at gyfres o adnoddau a gwybodaeth am y coronafeirws a sut y mae’n effeithio ar eich busnes yn y tudalennau ar COVID-19.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu ystod o adnoddau i gefnogi cyflogwyr i gyflwyno gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch, gan gynnwys gwybodaeth am Cymru Iach ar Waith sy’n cynnig cymorth gan gynghorydd iechyd, digwyddiadau hyfforddiant, gweithdai, gwybodaeth a chanllawiau.